Deiseb rhieni Môn i gael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd llawn

Mae deiseb a drefnwyd gan Gymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gymunedol Bodffordd wedi casglu cymaint o lofnodion y bydd nawr yn cael ei hystyried ar gyfer dadl yn siambr y Cynulliad.

Ym mis Awst eleni, derbyniodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth y ddeiseb am ragdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig ar ran Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad cenedlaethol ar risiau’r Senedd gan gynrychiolaeth o rieni o Fôn. Roedd dros 5,000 o lofnodion wedi cael eu casglu ar y ddeiseb a gafodd ei thrafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Deisebau fore heddiw.

Gan fod cymaint o lofnodion wedi’u casglu, penderfynodd y Pwyllgor Deisebau i ofyn am i’r ddeiseb fod yn bwnc dadl mewn Cyfarfod Llawn o’r Cynulliad.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:

“Rydw i’n falch iawn fod y Pwyllgor Deisebau wedi penderfynu gofyn i’r ddeiseb a’r mater pwysig yma gael ei drafod mewn cyfarfod llawn o’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Mae nifer o faterion allweddol sydd angen edrych arnynt pan mae’r pwnc yn dod i’r Cynulliad llawn – nid lleiaf yr hyn mae’r ddeiseb yn ofyn amdano, sef a ydy llywodraeth yn sicrhau fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn cadw at y cod, ond hefyd, yn allweddol – a ydy’r cod yn unrhyw beth mwy na geiriau heb yr adnoddau i’w chefnogi?”