Cynlluniau gan Blaid Cymru i wneud gogledd Cymru yn rym economaidd yn ei hawl ei hun

Dim mwy o economeg rhaeadru: bydd Plaid Cymru yn cynllunio ar gyfer twf

Heddiw bydd Plaid Cymru yn datgan sut y bydd yn gwneud gogledd Cymru yn bwerdy economaidd yn ei hawl ei hun.

Dywedodd Gweinidog cysgodol y blaid dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth, na fu economeg rhaeadru yn effeithiol, gan nodi nad oedd GVA ei etholaeth ef, Ynys Môn, yn ddim ond 48.6% o gyfartaledd y DG. Dywedodd fod cyflogau yn Nwyfor Meirionydd £200 yr wythnos yn is nac yng Ngogledd Caerdydd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod prosiect pwerdy gogledd Lloegr yn cynnig cyfle cyffrous i ogledd Cymru elwa, ond dywedodd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod gogledd Cymru yn datblygu yn bwerdy yn ei hawl ei hun.

Yr oedd cyfleoedd ynni gwyrdd, ymchwil a datblygu yn y prifysgolion, gweithgynhyrchu a thechnoleg, ac enw da fel man poblogaidd i dwristiaeth oll yn rhoi sylfaen gref i economi Cymru ffynnu, meddai Rhun.

Tynnodd Rhun ap Iorwerth sylw at ffigyrau a ddatgelwyd gan Llyr Gruffydd o Blaid Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi gwario dim ond 15% o’i chyllideb gyfalaf yn y gogledd.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth:

“Mae’r pwerdy gogleddol yn Lloegr yn rhoi cyfle cyffrous i ni hybu gweithgaredd trawsffiniol a hybu economi gogledd Cymru. Ond gallwn wneud gogledd Cymru yn rym economaidd yn ei hawl ei hun.

“Mae un Llywodraeth yn y DG a Chymru ar ôl y llall wedi canolbwyntio gormod ar ddefnyddio dinasoedd mawr i yrru twf economaidd, gan obeithio am obaith rhaeadru i ardaloedd megis gogledd Cymru – dyw hyn ddim wedi digwydd.

“Agwedd anghywir yw hon. Mae gan y gogledd gymaint o botensial. Mae pethau fel ein hadnoddau naturiol, yr arbenigedd yr ydym yn ddatblygu yn ein prifysgolion, cyfleoedd gweithgynhyrchu a thechnoleg cryf, a’n henw ardderchog mewn twristiaeth yn rhoi sylfeini cryf i dyfu ein heconomi. Ond mae Llywodraeth Lafur Cymru yng Nghaerdydd yn gyson wedi methu gwireddu’r potensial hwn.

“Mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar ail-gydbwyso’r economi, cadw pethau’n gytbwys a chynyddu ein cynhyrchedd ym mhob rhan o Gymru. Mae gan bob rhan o Gymru ran i’w chwarae yn ein ffyniant, a chyda’n gilydd gallwn gyrraedd ein potensial economaidd.”