Cynllun i goffau Pantycelyn wedi’i gyflwyno i’r Llywodraeth

Yn dilyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Economi a deiseb i’r Cynulliad, mae cais i goffau William Williams Pantycelyn bellach wedi cael ei dynnu i sylw Llywodraeth Cymru.

Mae eleni’n nodi tri chan mlwyddiant geni yr emynydd o fri (1717-1791). Er mor bwysig yw Williams i stori gefyddol Cymru, mae yna lawer mwy yn perthyn i’w hanes hefyd gan ei fod yn ei hanfod yn un o benseiri’r Gymru Fodern.

Roedd nifer felly yn siomedig nad oedd Llywodraeth Cymru heb drefnu dim i gofnodi’r 300 mlwyddiant eleni, a llofnododd dros 1,100 o bobl ddeiseb wedi’i drefnu gan ddau weithiwr gyda Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Tim Hodgins o Bort Talbot ac Aled Gwyn Jôb o Gaernarfon, yn galw arni i weithredu.

Mewn trafodaeth a gynhaliwyd ar y mater yn y Senedd ar Hydref 11eg, ac mewn ymateb i gwestiwn gan Rhun ap Iorwerth, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ken Skates, ei fod yn barod bellach i ystyried coffau Pantycelyn pe bai cynllun priodol yn cael ei gyflwyno i’w sylw.

Mae’r cynllun yn awr wedi cael ei gyflwyno i goffau Pantycelyn yn ei dref enedigol, Llanymddyfri. Mae dau ddarn i’r cyllun – y cyntaf yw comisiynu darn o gelf creadigol ac uchelgeisiol ar ffurf cofeb a fyddai’n deyrnged fyw i’w fywyd a’i waith a’i gyfraniad aruthrol i fywyd cenedlaethol Cymru. Yr awgrym yw y dylid seilio’r gwaith ar thema allai nodweddu bywyd a gwaith y Pêr Ganiedydd: er enghraifft “Grym Geiriau i Ysbrydoli a Symud cenedl”.

Mae ail ddarn y cais yn cynnig datblygu Canolfan Ddehongli Bywyd a Gwaith Pantycelyn, yn ogystal a ffigyrau eraill amlwg y cylch.

Dywedodd Aled Gwyn Jôb, un o gydlynwyr ‘Cyfeillion Pantycelyn’ sydd wedi dod a’r cynllun at ei gilydd:

“Credwn y byddai Coffau Pantycelyn fel hyn yn Llanymddyfri yn cydnabod rhan bwysig o’n hanes cenedlaethol. Byddai hefyd yn fodd i’n hail-gysylltu gydag etifeddiaeth ysbrydol gyfoethog ein gwlad.

“Mewn cyfnod sy’n llawn heriau gwleidyddol ac economaidd i Gymru- byddai ymdeimlo o’r newydd a’r ysbrydoliaeth sylfaenol hwn yn cynnig adnodd ychwanegol gwerthfawr iawn inni wrth edrych i’r dyfodol.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AC:

“Mae William Williams wir yn un o gewri ein hanes, ac rwyf yn gobeithio y bydd y Llywodraeth rwan yn barod i gydweithio gyda’r mudiad hwn i edrych ar sut y gellir gwireddu eu dymuniad i greu coffad deilwng.”