Cyllideb Anghynaliadwy yn mynd i daro Llywodraeth Lleol meddai Rhun ap Iorwerth

Mae Plaid Cymru wedi mynegi siom yng Nghyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 gan ei nodi fel cyfle coll i liniaru’r pwysau sydd ar Lywodraeth Leol.

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Y Gyllideb Derfynol 2019-20.

Dywedodd gweinidog cabinet cysgodol Plaid Cymru dros economi a chyllid Rhun ap Iorwerth AC fod y gyllideb yn siomedig ac nad yw’r setliad presennol ar gyfer Llywodraeth Leol yn gynaliadwy.

Meddai gweinidog cabinet cysgodol Plaid Cymru ar gyfer economi a chyllid Rhun ap Iorwerth AC,

“Mae’n siomedig iawn fod y Llywodraeth ddim wedi cymryd y cyfle i edrych eto am ffordd i roi setliad tecach i Lywodraeth Lleol yn y Gyllideb hon.

“Mi wnes i ysgrifennu’r wythnos yma at y Gweinidogion Cyllid a Llywodraeth Leol newydd, yn gofyn iddyn nhw chwilio am fodd o leihau’r baich er cyn ddyfned y toriadau sydd wedi’u pasio ymlaen i Lywodraeth Cymru oherwydd polisiau llymder Llywodraeth Prydain.

“Dydi sefyllfa gyllidol Llywodraeth Leol ddim yn gynaliadwy ac roedd cyfle yn y Gyllideb hon i dynnu’r pwysau oddi arnyn nhw.”