Cyfarfod Cyhoeddus llwyddiannus i’r AC

Nos Lun diwetha’ cynhaliodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn Gyfarfod Cyhoeddus yng Nghanolfan Gymunedol Kingsland, a bu i dros 50 o bobol fynychu.

Y syniad oedd i agor y llawr am drafodaethau ynglŷn a materion oedd yn poeni’r bobol leol.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Cawsom sgwrs fywiog am bryderon amrywiol oedd yn cynnwys Safle’r Teithwyr, Iechyd a’r GIG a Loriau hefyd.

“Byddaf yn parhau i gynnal Cyfarfodydd Cyhoeddus mewn ardaloedd eraill ym Môn yn y dyfodol. Maent yn rhoi cyfle i breswylwyr lleol i leisio’u pryderon a thrafod opsiynau. Byddaf yn dilyn y materion i fyny gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru neu Gyngor Sir Ynys Môn.

“Dim cyfarfod gwleidyddol oedd hwn, ac roedd amrywiaeth yn y Cynghorwyr oedd yn bresennol yn tanlinellu fod pob un ohonom yn gweithio at yr un nod – o gael Caergybi gwell.”

Ychwanegodd:

“Mae Caergybi yn drysor gyda’i Barc Morglawdd, Mynydd Cybi a chymaint o brydferthwch. Rhaid gwneud mwy o lawer i werthu Caergybi fel Atyniad Twristaidd. Mae gennym gymaint i fod yn falch ohono am Gaergybi.”