YMATEB I AS LLAFUR YN CEFNOGI YMCHWILIAD COVID PENODOL I GYMRU

Mae ymateb wedi bod i’r newyddion bod yr Aelod Seneddol Llafur dros Islwyn, Chris Evans AS, wedi cefnogi galwadau am Ymchwiliad Covid Cymreig annibynnol.

Dywedodd y Llefarydd Iechyd, Rhun ap Iorwerth:

“Rydym wedi galw ers tro am ymchwiliad Covid penodol i Gymru. Yn wir, galwasom am sefydlu fframwaith ymchwiliad yn nyddiau cynnar y pandemig, fel y gellid dechrau casglu tystiolaeth yn y man a’r lle.

“Mae’n briodol bod Cymru wedi gweithredu’n annibynnol mewn cynifer o feysydd yn ystod y pandemig a gyda chymaint o’r meysydd polisi perthnasol wedi’u datganoli, a chymaint o benderfyniadau wedi’u gwneud yng Nghymru, mae angen ymchwiliad sy’n benodol i Gymru. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am ei gweithredoedd – da a drwg, ac ni ddylid osgoi craffu manwl.

“Er mor gadarnhaol ag y gallai fod i glywed un llais Llafur unigol yn cytuno â ni, yr hyn sydd ei angen arnom yw i Lywodraeth Lafur Cymru newid ei meddwl a gwneud y peth iawn.”