Y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei ddal yn ôl gan y blaid Lafur swrth yng Nghymru, meddai Plaid Cymru.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi cyhuddo y Blaid Lafur o fethiant dybryd o ran problemau cronig y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd yn ei araith i gynhadledd wanwyn y blaid yng Nghasnewydd fod gweledigaeth Aneurin Bevan o’r gwasanaeth iechyd yn cael ei ddal yn ôl o’i ​​botensial o dan lywodraeth Lafur swrth.

Fe gyhuddodd Llywodraeth Cymru o ofyn i staff “ffyddlon” a “medrus” y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol “weithredu’r amhosibl”, a fod Llywodraeth Cymru wedi methu a chymryd cyfrifoldeb am ei methiannau.

Meddai Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth AC:

“Yma yng Ngwent y cafodd Aneurin Bevan yr ysbrydoliaeth, gan ddod o hyd i’r nerth i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Ond yma fel yng ngweddill Cymru mae pobol yn sylweddoli fod ei weledigaeth yn cael ei ddal yn ôl o’i botensial.

“Mae rhagoriaeth yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Staff medrus ac ymroddgar – rydym yn ffodus i’w cael, ac ni allwn ddiolch digon iddynt. Ond maent yn cael eu gofyn i wneud mwy a mwy, oherwydd diffyg cefnogaeth y Llywodraeth – i gyflawni’r amhosibl.

“Nid yw pobl eisiau colli’r gobaith y gall y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol gyflawni ar weledigaeth Bevan, ond ymddengys mae agwedd Llafur at y materion a godwyd am berfformiad y Gwasanaeth Iechyd yw i wadu fod problemau- a beio unrhyw un ar wahân iddyn nhw eu hunain.

“Byddant yn dweud wrthym nad yw ystadegau’n berthnasol, neu’n honni eu bod yn cyfeirio at ddigwyddiadau ynysig. Byddant yn dargyfeirio unrhyw feirniadaeth fel “dod a gwleidyddiaeth i’r Gwasanaeth Iechyd” neu gyhuddo rhai sy’n tynnu sylw at broblemau o ymosod ar staff sy’n gweithio’n galed.

“Pan gafodd y mater o dargedau amseroedd aros canser annerbyniol ei godi gyntaf, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd ar y pryd a’r Prif Weinidog addewid i’r Cynulliad y byddai’r targedau’n cael eu cyrraedd erbyn mis Hydref 2013. Mae hi bellach yn Fawrth 2017 a tydi’r targedau hynny yn dal heb gael eu cyrraedd. Mae’r perfformiad yn dal i fod yr un mor ddrwg heddiw- gyda’r addewidion a thargedau, yn dawel, wedi eu anghofio.

“Pwy sydd ar fai am y methiannau hyn? Yn ôl ein llywodraeth – ein Hysgrifennydd Iechyd ac ein Prif Weinidog – y cleifion sy’n rhy sâl, neu’r fformiwla Barnett sy’n rhy annheg. Byddant yn beio pobl sy’n ysmygu ac yn yfed fel pe bai pobl yr Alban a Lloegr yn byw bywyd sy’n berffaith iach.

“Mae Cymru angen llywodraeth sy’n cymryd cyfrifoldeb ac yn arwain gydag uchelgais. Dyna pam y mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar ddatrys problemau yn hytrach na’u gwadu.

“Bydd Plaid Cymru yn hyfforddi a recriwtio’r meddygon sydd eu hangen arnom ar gyfer pob rhan o Gymru ac rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer diagnosis canser. Mae angen i’n llywodraeth ganolbwyntio ar wneud y Gwasanaeth Iechyd cystal ag unrhyw le yn y byd, ac nid dim ond anadlu ochenaid o ryddhad pan nad yw ffigurau newydd cyn waethed ag y gallent fod wedi bod.

“Mae angen arweinyddiaeth, nid rheoli.”