Wythnos Rhun – 9/7/21

Porthladd Rhydd Caergybi 

Gofynnais i Lywodraeth Cymru wneud gwaith ar effaith economaidd porthladdoedd rhydd. 

Mae eisiau ystyried pob opsiwn ar gyfer cyfleon newydd i borthladd Caergybi, dwi wedi edrych ers sawl blwyddyn ar y posibiliadau o ran creu porthladd rhydd. Ond mae eisiau bod yn glir iawn am fanteision posib ac anfanteision posib. 

Gweminar

Ymunais â gweminar Fferm Solar Alaw Môn, byddaf yn edrych yn ofalus dros y datblygiadau dros yr wythnosau nesaf.

Cyfarfod Llawn

Wrth wrthod ymchwiliad penodol i Gymru, mae’n anochel y bydd y chwyddwydr ar yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru yn cael ei wanhau.

Galw yn y Senedd am ymchwiliad penodol i sut mae Llywodraeth Cymru wedi delio efo’r pandemig.

Iechyd

Holais am adferiad y gwasanaeth iechyd, gan gyfeirio at sawl maes. Mae’n bryder meddwl am filoedd o bobl—dros 4,000 yn ôl Macmillan—yn bosib sydd ddim wedi cael diagnosis cancr. Ond mae’n bryder i fi, wrth gwrs, mai beth sydd wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf ydy chwyddo problem oedd yn bodoli yn barod, ac un broblem oedd gennym ni mewn gwasanaethau canser oedd prinder gweithwyr i wneud y gwaith diagnosis. 

Mae gen i bryderon mawr am bobl ifanc, a dweud y gwir, ar hyn o bryd, wrth i gyfyngiadau gael eu codi. O fy ngwaith i fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar COVID hir, dwi’n gweld cyfran ryfeddol o uchel o’r bobl dwi’n siarad â nhw yn bobl sydd wedi mynd yn sâl drwy eu gwaith nhw mewn iechyd a gofal. Mae eisiau cynnig cefnogaeth iddyn nhw, a dwi eisiau gwybod beth mae’r Llywodraeth yn mynd i’w wneud i’w cefnogi nhw.

Sialens 5k – IIGA

Cymerias ran yn her 5k IIGA a oedd yn rhithiol eleni. Fy amser yn rhedeg y 5k oedd 00:27:26 ac rwy’n annog i lawer mwy gymryd rhan yn yr her.

Trenau Cymru

Cefais gyfarfod â Phrif Weithredwr Trafnidiaeth i Gymru i drafod dau fater y mae sawl etholwr wedi godi sef cau gorsafoedd y Fali a Llanfairpwll dros dro yn ystod y pandemig a mater trenau gorlawn ar reilffordd gogledd Cymru.

Mynegais fy siom bod gorsafoedd y Fali a Llanfairpwll wedi cau ers dechrau’r pandemig. Dywedodd Trafnidiaeth i Gymru wrthaf eu bod yn dal i chwilio am ateb i’r mater hwn, gan gynnwys offer PPE gwell a hyfforddiant i warchodwyr. Yn y cyfamser, maent wedi sicrhau bod opsiwn ‘call a cab’ ar gael i deithwyr sydd am deithio o’r gorsafoedd hyn i’r orsaf agosaf i fynd ar wasanaethau trên. Cefais gyfweliad â’r BBC am y mater hwn.

Facebook Live
Nos Lun arall a sesiwn Facebook Live arall. Sesiwn byrrach yr wythnos hon, ond braf oedd cael dal fyny ag etholwyr unwaith eto’r wythnos hon i drafod materion sy’n codi ynghlych y pandemig neu unrhyw fater arall.

MônFM
Recordiais fy mwletin wythnosol sy’n cael ei ddarlledu ar MônFM yn wythnosol, bob nos Wener am 8yh – cofiwch diwnio mewn!

Cymhorthfa
Fel bob wythnos, cynhaliais fy nghymhorthfa er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leisio’u problemau neu bryderon ac i mi gynnig datrysiad neu gymorth iddynt.

Etholwyr
Gyda chymorth fy nhîm, atebais lawer o ebyst a galwadau ffôn nifer o etholwyr drwy gydol yr wythnos.