Wythnos Rhun – 24/5/21

Cyfarfod

Cefais gyfarfod briffio â chynllun Alaw Môn, y cynllun i gael fferm Solar ger Llyn Alaw. Mae’n gyfnod digynsail o ran twf yn y sector ynni adnewyddol. Ond mae’n bwysig ein bod yn edrych yn union beth fydd yr elw cymunedol o’r prosiect. Byddaf yn edrych yn ofalus dros y datblygiadau dros yr wythnosau nesaf.

RNLI – Bae Trearddur

Cefais gyfarfod â’r bad achub ym Mae Trearddur, wedi iddynt fod allan ar y dŵr yn achub dynes a oedd yn syrffio yr wythnos flaenorol. Roedd yn gyfle gwych i mi allu diolch iddynt am eu gwaith anhygoel yno. Diolch!

Cyfarfod M-SParc

Cefais gyfarfod â Pryderi ap Rhisiart yn M-SParc i drafod nifer o bwyntiau gan gynnwys Digwyddiad Trafnidiaeth Gwyrdd, Grwp Trawsbleidiol Digidol, AgriTech a diweddariad ar gynllun Thermal Hydraulic. Roedd yn gyfarfod diddorol iawn i drafod llawer o bethau cyffrous.

Sesiwn Facebook Live

Nos Lun wych unwaith eto yn cael sgwrsio ac ateb unrhyw bryderon sy’n codi gydag etholwyr. Ymunodd llawer yn y sesiwn eto’r wythnos hon, ac roedd yn braf gweld cymaint yn gweld budd o’r sesiwn unwaith eto.

Argyfwng Tai

Gofynais gwestiwn cynta’r tymor newydd yn y 6ed Senedd i’r Prif Weinidog, a gofyn iddo am ddatganiad i’r argyfwng tai yr ydym yn ei wynebu. Mae’n sefyllfa argyfyngus y mae’n rhaid i’r Llywodraegth fynd i’r afael â hi, a hynny ar frys. Mae gormod o bobl ifanc yn cael eu prisio allan o’u cymunedau – mae’n rhaid datrys y broblem hon cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Ymateb i ddiweddariadau Covid-19

Ymatebais i’r diweddaraf am y rheoliadau Covid-19, gan gynnig sylw i ambell ddiwygiad ac mi wnes apêl funud olaf ar y Llywodraeth i roi gwybod pa gamau fydd yna i ganiatáu pethau fel parkruns i ddigwydd yn fuan—digwyddiadau chwaraeon sydd mor llesol ar gyfer y corff a’r meddwl, ac i ganiatáu cefnogwyr i wylio Caernarfon yn erbyn y Drenewydd, ddydd Sadwrn yma. Mae modd gwneud y pethau yma yn ddiogel, ac mi wnes erfyn arnynt i wneud popeth y gallen nhw.

Holais hefyd am ba baratoadau oedd mewn lle ar gyfer 3ydd ton, er mwyn i ni fod yn barod pe byddai hynny yn digwydd ac i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws gorau posib.

Cymhorthfa

Fel bob wythnos, cynhaliais fy nghymhorthfa er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leisio’u problemau neu bryderon ac i mi gynnig datrysiad neu gymorth iddynt. 

Etholwyr

Gyda chymorth fy nhîm, atebais lawer o ebyst a galwadau ffôn nifer o etholwyr drwy gydol yr wythnos.