Blog profiad gwaith – gan Ifan Hughes

Cefais gyfle i fynd am wythnos o brofiad gwaith gyda Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, yn ei swyddfa yn Llangefni ym mis Gorffennaf 2016. Rwyf yn fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Hanes ac yn byw ym Mryngwran Ynys Môn. Gan fy mod yn agosáu at ddiwedd fy nghyfnod yn y Brifysgol a dal ddim yn rhy siŵr o beth i wneud yn y dyfodol, roedd profiad gwaith gyda Rhun yn gyfle da i mi ddod i ddeall mwy am waith AC. Gan fy mod yn astudio Hanes a gyda diddordeb mewn gwleidyddiaeth roedd y profiad yn agoriad llygaid i mi er mwyn penderfynu pa lwybr y byddaf yn ei ddilyn ar ôl graddio.

Yn ystod fy amser cefais y cyfle i gyflawni nifer o wahanol dasgau a chael nifer o brofiadau newydd a oedd yn ddefnyddiol iawn i mi. Treuliais fy amser yn y swyddfa yn Llangefni am yr wythnos gyfan ac yno cefais hefyd y cyfle i weithio yng nghwmni Rhun a’i staff a oedd yn barod i fy helpu ac yn rhoi digon o waith i mi wneud.

Mynychais un o gyfarfodydd cyhoeddus Rhun yng nghlwb rygbi Llangefni ar y 4ydd o Orffennaf ynglŷn â’r refferendwm a sut oedd Rhun yn bwriadu symud ymlaen yn dilyn y canlyniad i Adael Ewrop. Yn dilyn y cyfarfod cefais gyfle i ysgrifennu Datganiad I’r Wasg am y digwyddiad. Gan nad oeddwn erioed wedi ysgrifennu Datganiad o’r blaen, roedd hyn yn sgil defnyddiol iawn gan fod ysgrifennu datganiad yn ffocysu ar ddefnyddio dyfyniadau yn hytrach na fy nehongliad personol, rhywbeth yr wyf yn ei wneud yn aml yn fy ngwaith yn y Brifysgol.

Cymerais ran mewn ‘Cymhorthfa’ gyda Rhun yn gwrando ar broblemau ac ymholiadau pobl ynglŷn â nifer o faterion gwahanol. Wrth gymryd nodiadau ar yr ymholiadau roeddwn wedyn yn mynd ati i ysgrifennu llythyrau er mwyn ceisio datrys eu problemau. Hefyd ysgrifennais lythyrau yn llongyfarch grwp Creating Chances gan eu bod wedi ennill grant gan y Gronfa’r Loteri Fawr. Treuliais amser hefyd yn mynd drwy benawdau o’r Holyhead & Anglesey Mail ac yn rhoi crynodeb o’u cynnwys er mwyn diweddaru Rhun ar y newyddion lleol.

Gan nad oeddwn wedi mynd lawr i Gaerdydd gyda Rhun, cefais y cyfle i fynychu cyfarfodydd ym Môn. Drwy fynychu’r cyfarfodydd yma cefais syniad o beth mae Rhun a’i aelodau o’i staff yn ei ddelio gydag a chefais hefyd y cyfle i leisio fy marn yn rhai o’r cyfarfodydd yma.

Roedd hi’n wythnos ddiddorol iawn ac fe wnes i wir fwynhau’r profiad o gael dod i weithio gydag AC a dod i ddeall mwy am sut fath o waith maent yn delio gyda nhw. Yn sicr mae’r wythnos o brofiad gwaith wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi er mwyn meddwl am swydd o fewn gwleidyddiaeth yn y dyfodol.