Blog Profiad Gwaith – Edwyn Cassidy

Fy enw ydi Edwyn Alawydd Cassidy a rwy’n ddisgybl Blwyddyn 10 (yn mynd ymlaen i Blwyddyn 11) yn Ysgol Uwchradd Bodedern. ‘R ydw i’n byw yn Bryn Du, wrth ymyl Llanfaelog a Rhosneigr ac yn astudio Daearyddiaeth ac Ast. Cref. Am nad yw Bodedern yn cynnig cwrs mewn Gwleidyddiaeth. Pan ddaeth hi’n amser gwneud profiad gwaith yn yr ysgol, dewisiais fynd i Plaid Cymru, yn Swyddfa Rhun ap Iorwerth yn Llangefni. ‘Rwy’n hoff iawn o Rhun ap Iorwerth ac yn cefnogi ei waith yn y Senedd a gwaith Plaid ar y cyfan. Felly, gan fod gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac eisiau dysgu mwy am sut oedd o’n gweithio, dyna lle fues i.

I ddweud y gwir ‘roedd y wythnos wnes i fy mhrofiad gwaith yn wythnos dawel iawn am ei bod yn egwyl yn y Senedd. Ond, er hynny, wnes i dal ddysgu llawer yn ystod fy amser yna.

Dros y pedwar diwrnod cyntaf roeddwn yn y swyddfa yn Llangefni yn cyfarfod y gweithwyr, darllen y newyddion, a cadw’r staff yn wybodus am beth sydd wedi digwydd sy’n pwysig. Hefyd oedd rhaid i mi teipio ambell lythyr, a mynd gyda Rhun i’r cyfarfodydd yn y Cyngor yn Llangefni, a hefyd gwneud pethau bach fel te i’r gweithwyr arall (ond doedd hon ddim yn hanfodol!). Yna, yn hwyrach ymlaen yn yr wythnos, cefais wneud galwadau ffôn, helpu allan gyda Sefydlu Cangen Plaid Cymru Ifanc cyn Sioe Môn, a hefyd ysgrifennu briffiau ac erthyglau ar bynciau amrywiol.

Ar y diwrnod olaf es i gyda Rhun ap Iorwerth a Non ap Gwyn i Llangoed yn y bore i gyfarfod trigolion Llangoed oedd methu cael Broadband Superfast . Am awr arhoson ni yno fel bod ni’n gallu clywed stori y pobl a chymdeithas Llangoed tra fy mod i’n cymryd nodiadau. Yna, cymerwyd lluniau ar gyfer y papur newydd cyn gadael. Yna, erbyn diwedd y dydd, nes i gorffen y gwaith oedd i wedi dechrau ddoe ar gyfer Sioe Môn a gorffen ysgrifennu y blog yma, a hefyd cymryd y llun o fi a Rhun ar gyfer y blog yma.

I gasglu, ‘roedd hwn yn wythnos hwyliog iawn a byddaf yn hiraethu am weithio yma. Dysgais lawer am wleidyddiaeth a sut mae pethau’n gweithio yn y Senedd, a byddaf yn gweld beth nes i ddysgu yn ddefnyddiol iawn yn y dyfodol os ‘rydw i’n llwyddo i gael swydd mewn gwleidyddiaeth.