“Dim rhwystr i gymryd camau tuag at gynnig cwrs feddygol llawn i israddedigion wedi’i angori ym Mangor” medd AC

Darn o fy nghyfraniad i’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd ar recriwtio meddygol ddoe:

“Mae yna gyfle i arloesi yma ac mae argymhelliad 5 yn galw’n glir am ganolfan addysg feddygol ym Mangor. Mae yna gymaint o resymau dros yr angen: yn ieithyddol, yn ddaearyddol, yn economaidd, hyd yn oed, o ran cynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr o’r gogledd astudio yn eu milltir sgwâr, a hefyd o ran datblygu arbenigedd mewn darparu gofal iechyd gwledig dwyieithog. Mi fyddai’n rhoi seiliau mwy cadarn i’r ddarpariaeth iechyd ar gyfer trigolion yr ardal ac yn ei gwneud yn haws i recriwtio meddygon sydd eisiau bod yn rhan o ddarlithio neu’n rhan o waith ymchwil. Felly, mi allwch chi ddychmygu fy siom i pan wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud ym mis Gorffennaf nad oedd yna achos dros gael ysgol feddygol ym Mangor, ac mai lleoli myfyrwyr o lefydd eraill yn y gogledd am gyfnodau oedd eisiau. 
 
“Yn gyntaf, dydy’r pwyllgor ddim yn gofyn am ysgol feddygol. Dydw i, chwaith, drwy Blaid Cymru, ddim yn gofyn am ysgol feddygol lawn rŵan. Mae’n bosibl y daw o maes o law. Mae hynny’n rhywbeth a fyddai’n cymryd blynyddoedd. Ond, efo cydweithio rhwng y Llywodraeth, y ddeoniaeth a’i holynydd, prifysgolion Bangor, Caerdydd, Abertawe a rhai dros y ffin hefyd, nid oes unrhyw rwystr i gymryd y camau cyntaf tuag at gynnig cwrs llawn i israddedigion wedi’i angori ym Mangor, ac i symud tuag at hynny, os nad cyflawni hynny yfory, yn syth. Fy mhryder i, ac rwy’n siŵr y bydd llawer yn rhannu’r pryder hwnnw, ydy: os yw’r Llywodraeth yn gallu bod yn ddi-hid o’r gwaith trylwyr a wnaed gan y pwyllgor, a’r angen clir a ddaeth yn amlwg inni am hyn, pa hyder sydd gennym ni ym mharodrwydd y Llywodraeth i fod yn arloesol ac yn uchelgeisiol mewn perthynas â gweddill yr argymhellion?”