Rhaid i Gymru newid er mwyn peidio â chael y perfformiad economaidd gwaethaf o unrhyw wlad yn y DU

Mae polisïau economaidd Llywodraethau Cymru a San Steffan wedi gwneud cam â phobl Cymru

Mae ffigurau newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw yn dangos mai Cymru sydd â’r cynhyrchiant economaidd gwaethaf yn y DU o hyd.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr economi a chyllid Rhun ap Iorwerth AC bod yr ystadegau yn dangos bod polisïau economaidd Llywodraethau Cymru a San Steffan wedi gwneud cam â phobl Cymru.

Yn 2017 Cymru oedd â’r gwerth ychwanegol gros (GYG) isaf y pen yn y DU, sef dim ond £19,899 o’i gymharu â £25,485 yn yr Alban a £28,086 yn Lloegr. Yr oedd economi Llundain yn 2017 fwy na ddwywaith mor gynhyrchiol ag economi Cymru, gyda gweithgaredd economaidd Llundain yn dod â £48,857 y pen i mewn.

O’r pedair gwlad yn y DU, Cymru hefyd oedd â’r twf economaidd isaf rhwng 2016 a 2017, sef 1.4%, tra tyfodd economïau’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr o 1.6%, 1.9% a 2.0% yn y drefn honno.

Tynnodd Mr ap Iorwerth sylw hefyd at y ffaith bod y dull presennol o adael Cymru allan o’r UE yn peryglu gwneud pethau’n waeth.

Dywedodd Ysgrifennydd cysgodol Plaid Cymru dros yr economi a chyllid Rhun ap Iorwerth AC:

“Mae ffigurau newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos unwaith eto bod polisïau economaidd Llywodraethau Cymru a San Steffan yn gwneud cam â phobl Cymru.

“Rydym yn gwybod nad yw San Steffan erioed wedi bod â buddiannau Cymru yn ei galon, ond nid oes gan Lywodraeth Lafur Cymru’r syniadau na’r uchelgais i wella pethau.

“Ac erbyn hyn rydym ar drothwy BREXIT sy’n cael ei osod ymlaen i wneud economi Cymru yn dlotach. Nid fy nadansoddiad i yw hynny, ond mae’r dadansoddiad o Lywodraeth San Steffan wedi ymrwymo i wneud hyn.

“Os ydym yn mynd i weld gwelliant yn safonau byw pobl yng Nghymru, mae angen newid. Mae’r newid hwnnw wedi’i ymgorffori yn y syniadau a’r polisïau y mae Plaid Cymru yn eu cyflwyno.”