Fideo: Fy araith yn nadl Plaid Cymru ar fancio

“Mae wedi dod yn amlwg bod yna batrwm yn datblygu, ac mae sawl Aelod wedi cyfeirio ato yn barod—y patrwm yma o ganoli mewn nifer o ‘hubs’ ardal, ac mae beth sy’n digwydd ar Ynys Môn yn esiampl wych o hyn. Ar Ynys Môn, ac eithrio Ynys Gybi am eiliad, yn dilyn cyhoeddiadau diweddar, dim ond yn Llangefni fydd yna unrhyw fanc llawn-amser ar agor o gwbl. Mae Barclays rhan-amser yn Amlwch, ond mae Caergybi, fel prif ardal boblog Ynys Môn, hefyd wedi clywed yn ddiweddar ei bod hi’n colli ei HSBC. Felly, mae yna batrwm yn datblygu yma. Y cyhoeddiadau rydym ni wedi eu cael yn ddiweddar ydy: cau NatWest yn Amlwch, yng Nghaergybi, ym Miwmares ac ym Mhorthaethwy; a HSBC yn mynd yng Nghaergybi, yn Amlwch, ym Mhorthaethwy a Biwmares yn ddiweddar. Nid dim ond y banciau chwaith, ond sefydliadau ariannol yn ehangach—Yorkshire Building Society yn Llangefni i gau hefyd.

“Ac os gwnaf roi sylw i Fiwmares am eiliad, yn yr un ffordd ag y clywsom ni hanes gan Llyr Gruffydd am wasanaethau yn cael eu sugno i ffwrdd, pan gafwyd y cyhoeddiadau gan NatWest a HSBC am gau Biwmares: ‘Peidiwch â phoeni—dim ond 4 milltir i ffwrdd ydy Porthaethwy.’ Wrth gwrs, mae Porthaethwy hefyd wedi clywed bod y banciau hynny yn cau erbyn hyn.

“Y rheswm rydym yn ei glywed yw bod mwy o fancio yn digwydd ar-lein; wrth gwrs, mae hynny yn ffeithiol gywir. Mae yna lawer o wasanaethau ar gael yn y post, rydym yn ei glywed; wrth gwrs bod hynny yn wir hefyd. Ond gyda phob parch i swyddfeydd post, sydd yn cynnig mwy a mwy o wasanaethau o ran gallu talu arian i mewn a thynnu arian allan, nid yw’r cyngor, y gwasanaethau ychwanegol a’r gefnogaeth y gellid ei chael drwy ganghennau ddim ar gael. Dyna’r math o gefnogaeth mae’r pobl mwyaf bregus ei hangen. Nid wyf yn disgwyl gweld dychwelyd i’r dyddiau lle mae gan bob tref fach gangen o bob banc, ond rhywsut mae angen sicrhau bod gwasanaeth ariannol sylfaenol ar gael i bawb o fewn pellter synhwyrol a chymedrol.

“O ran yr ymgynghori sy’n digwydd, mae gen i lythyr gan NatWest yn fan hyn ynglŷn â chau cangen Porthaethwy yn dweud bod yna bump ATM—peiriant twll yn y wal—ar gael o fewn milltir i’r gangen, felly beth ydy’r ots am golli y peiriant ATM hwnnw? Wel, beth wnes i bwyntio allan i NatWest oedd bod pedwar o’r rheini ar y tir mawr—un ohonyn nhw yn Ysbyty Gwynedd ac un ohonyn nhw yng Ngholeg Menai; hynny ydy, camarwain pobl drwy roi yr argraff bod yna wasanaethau amgen ar gael. Nid oes yna ddim; un sydd yna ar gael ym Mhorthaethwy, fel mae’n digwydd, ac nid yw hwnnw, chwaith, yng nghanol y dref.”