Fideo: Darn o fy nghyfraniad i i’r ddadl yn y Senedd ar Adroddiad Interim yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“A gaf i yn gyntaf groesawu yr adroddiad interim yma? Mae o’n adroddiad trylwyr, ag ôl gwaith ymchwil ac ymgynghori trylwyr arno fo. Mae o’n rhoi cryn fanylion i ni am gyflwr a heriau yr NHS a’r sector gofal yng Nghymru heddiw, ond mae’n rhaid dweud hefyd nad ydy’r canfyddiadau yn rhai a ddylai ein synnu ni ryw lawer. Beth sydd gennym ni ydy darlun o bwysau ariannol, pwysau demograffig, yn gymysg efo cynllunio gweithlu gwael, tanberfformiad a diffyg integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym ni’n gweld yn glir y rhagoriaeth sydd yna ymhlith y staff proffesiynol yn yr NHS a’r sector gofal, ond yn gweld y straen a’r pwysau sydd arnyn nhw wrth iddyn nhw geisio gweithredu hyd at eithaf eu gallu.

“Mae’r dystiolaeth yn glir yn barod, felly, rydw i’n meddwl, er mai adroddiad interim ydy hwn, na allwn ni barhau fel yr ydym ni. Mae hynny hefyd yn golygu rhoi’r gorau i dwyllo y gall Llywodraeth Prydain barhau â’i pholisïau llymder tra bod Llywodraeth Cymru, ar yr un pryd, yn parhau i wasgu ar gyllid awdurdodau lleol ac felly ar ofal cymdeithasol, ac nad yw hynny rhywsut am gael effaith wirioneddol andwyol ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau gofal ac iechyd fel y mae pobl yn eu disgwyl ac yn eu haeddu.

“Mae’n glir o’r adroddiad bod angen i gyllid y gwasanaeth iechyd gynyddu wrth i anghenion y boblogaeth gynyddu, ond, ar yr un pryd, fod angen buddsoddi mwy fyth mewn gofal cymdeithasol. Rydym ni yn gwybod bod gofynion ar wasanaethau yn mynd i gynyddu, er bod faint y byddant yn cynyddu yn dibynnu ar faint, o ddifri, y bydd y Llywodraeth yma yn ymateb i wahanol heriau—heriau gordewdra, er enghraifft; yr angen i annog byw yn iach. Mae elfennau eraill hefyd: safon tai, yr amgylchedd ac, wrth gwrs, toriadau i’r wladwriaeth les, pan mae’r gwannaf yn ein cymdeithas yn cael eu gwasgu gan y polisïau mwyaf creulon. Rydym ni’n gwybod bod digartrefedd ar gynnydd, bod hunanladdiad ar gynnydd, bod defnydd o wasanaethau iechyd ar gynnydd. Felly, mae’r achos dros newid yn gryf, a newid yn y ffordd y mae Llywodraethau yma ac yn Llundain yn edrych ar, ac yn cefnogi, yr holl ecosystem o wasanaethau iechyd a gofal a chefnogaeth gymdeithasol.

“Mi allaf gyfeirio at ambell elfen benodol sy’n cael ei phwysleisio yn yr adroddiad yma—cynllunio gweithlu, er enghraifft. Mae gwell cynllunio gweithlu o fewn ein cyrraedd ni, os gwelwn ni’r Llywodraeth yn cymryd camau priodol, fel cyflwyno canolfan addysg feddygol ym Mangor ac annog rhagor o bobl ifanc o Gymru ac o wahanol gefndiroedd, gan gynnwys y cefndiroedd mwy difreintiedig, i astudio meddygaeth. Mae hyn yn golygu cymryd y camau angenrheidiol i gynyddu faint o nyrsys yr ydym yn eu hyfforddi a rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen i’r nyrsys dan hyfforddiant er mwyn gwneud hwn yn broffesiwn sy’n ddeniadol o hyd iddyn nhw.

“Mae’r adroddiad yn tanlinellu’r sgôp i ddefnyddio technoleg i gynnig ffyrdd gwahanol—ffyrdd gwell, a ffyrdd rhatach yn aml iawn—o drin ac ymgeleddu cleifion. Ond mae hynny’n golygu cael gwasanaethau a sefydliadau iechyd a gofal sy’n hyblyg ac yn gallu ymateb i ddatblygiadau newydd. Mi fydd rhai o’r datblygiadau yma sy’n dod yn gyflym tuag atom ni yn rhai gwirioneddol chwyldroadol, ac allwn ni yng Nghymru ddim cael ein gadael ar ôl. Felly, mae yna heriau sylweddol ond cyfleoedd sylweddol hefyd.

“We have major challenges ahead of us, but real opportunities too, if Wales has the ambition and has the positivity to take advantage of those opportunities, rather than pretend our job is to manage a decline and moan about things that we can’t do anything about. It’s about Welsh Government, more specifically, showing that it is ready to step up to the plate. A core problem, the elephant in the room, is this: Labour in Government has always run the NHS since the people of Wales decided to devolve it nearly exactly 20 years ago. Wales cannot afford any longer to have a Government refusing to admit to the depths of some of the NHS’s and the care sector’s problems, because to do so would be to admit that they are responsible for those problems. The people of Wales need to see a real gear change in how Welsh Government runs health and social care in Wales and thinks about the delivery of health and social care in Wales. We have an interim report now highlighting some of the main challenges. We will soon have a completed review and, hopefully, a set of recommendations that can spur some real action.”