Fideo: Angen i fanciau sicrhau gwasanaethau ariannol hygyrch ym mhob cymuned yng Nghymru

Yn sgil cyhoeddiadau diweddar gan HSBC, NatWest a Yorkshire am gau canghennau yn Ynys Môn, fe wnaeth Aelod Cynulliad yr ynys Rhun ap Iorwerth alw ar y Prif Weinidog i roi pwysau ar Lywodraeth y DG i wneud yn siwr fod banciau yn darparu gwasanaethau ariannol hygyrch ym Môn a Chymru.

Yn siarad yn y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Rwyf wedi codi pryderon yn y Siambr yma efo’r Prif Weinidog ynglŷn â chyfres o gyhoeddiadau yn fy etholaeth i. Mae yna ragor o gyhoeddiadau wedi dod yn ddiweddar ynglŷn â sefydliadau ariannol, nid dim ond banciau, yn cau: HSBC yng Nghaergybi a chymdeithas adeiladu Yorkshire yn Llangefni ydy’r diweddaraf. Canlyniad hyn, wrth gwrs, ydy bod yna ganoli, rydw i’n meddwl, mewn ‘hubs’ rhanbarthol. Rydym yn gweld patrwm o hynny yn digwydd ar hyn o bryd, ac mae hynny yn amddifadu pobl o wasanaethau, fel y mae Aelodau eraill yma wedi ei ddweud.

“Ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth Prydain i sicrhau bod banciau, os nad fel cwmnïau unigol ond fel sector, yn sicrhau gwasanaethau ariannol a hygyrchedd iddyn nhw ym mhob cymuned yng Nghymru?”