20 mlynedd ers datganoli – fy sylwadau i yn yr Holyhead and Anglesey Mail heddiw

“Datganoli ydy Cymru’n dweud ‘da ni’n genedl, ‘da ni eisiau llais, ac eisiau penderfynu drosom ein hunain sut i osod blaenoriaethau ar gyfer dyfodol tecach a fwy ffyniannus’.”

“Wrth i ni asesu effaith datganoli, rhaid i ni fod yn glir ym y gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad. Mae’r Cynulliad yn perthyn i ni i gyd – dyma ein Senedd genedlaethol. Y Llywodraeth – dan arweiniad Llafur ers dyfodiad datganoli – yw’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gan ddod o’r grŵp (neu’r glymblaid) mwyaf yn y Cynulliad.

“Ydw i’n credu bod y Llywodraeth Lafur yma yn gwneud gwaith da? Yn darparu’r gwasanaeth iechyd, safonau addysg a llwyddiant economaidd y mae Cymru yn ddyheu amdanynt? Yn dod â’r genedl at ei gilydd ac yn gwneud i bob rhan, y gogledd, de gorllewin a dwyrain, deimlo’n werthfawr? Nac ydw – dwi’n credu ei fod gwneud llawer llai na’r hyn y mae ar Gymru ei angen. Ein gwaith ni ym Mhlaid Cymru ydy cynnig dewis arall.

“Ond ydw i’n credu mai datganoli – sefydlu’r Cynulliad – oedd y peth iawn? Yn bendant! Ac ni ddylem byth edrych yn ôl. Gall y Llywodraeth gael ei newid – dyna pam yr ydym yn cael etholiadau. Ond dychmygwch pe byddai Cymru wedi dweud ‘Na’ yn 1997. Byddwn wedi dweud wrth y byd nad ydym ni’n wirioneddol eisiau bodoli fel cenedl. Ond rydym yma o hyd! A dylem symud ymlaen yn hyderus.”