AC yn ymuno gyda phlant ysgol i gael llwybr saff i’r ysgol

Mae Rhun ap Iorwerth AC wedi dod ynghyd gyda disgyblion Ysgol Rhosybol er mwyn gweld be ellid ei wneud i wella diogelwch are u ffordd i’r ysgol.

Yn dilyn llythyr gan Gyngor yr Ysgol, aeth Rhun draw yno i siarad gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6. Yn siarad wedi’r ymweliad, dywedodd Rhun:

“Roedd yn braf cael cyfarfod disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn ysgol Rhosybol wedi i’r cyngor ysgol ysgrifennu ataf am gerdded i’r ysgol yn ddiogel. Roeddent wedi gobeithio cael croesiad sebra wrth yr ysgol, ond dywedwyd wrthym nad yw hyn yn opsiwn.

“Ond doedd y plant ddim yn barod i roi’r ffidil yn y to, felly es draw i’r ysgol i drafod gyda nhw pa opsiynau eraill hoffent eu gweld. Rydym yn awr wedi penderfynu ysgrifennu ar y cyd at y Cyngor i weld os byddai’n bosib cael arwydd sy’n fflachio 20mya yn ystod amseroedd cerdded i ac o’r ysgol, neu os oes unrhyw fesurau diogelwch eraill y gallent eu hystyried.

“Roedd yn braf iawn gweld y plant mor frwd dros weithredu er lles eu hysgol a’u cymuned. Tra roeddwn yno, cawsom gyfle i drafod pob math o bynciau eraill hefyd – o’n hoff bynciau ysgol i ba mor gyffroes oeddem ni i gyd am wylio tîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros!”