Cenedl i’n Ieuenctid

Wrth i ddisgyblion Cymru dderbyn canlyniadau TGAU heddiw, mae Rhun ap Iorwerth wedi amlinellu rhai o’i gynlluniau i gefnogi pobl ifanc

Ar ddiwrnod canlyniadau arholiadau, mae ymgeisydd arweinyddol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi llongyfarch myfyrwyr Cymru ar eu camp ac wedi amlinellu ei ‘Gynllun Cymru Ifanc’ a fyddai’n rhoi lles ieuenctid wrth galon penderfyniadau Llywodraeth Cymru.

Yn siarad ar ddiwrnod canlyniadau TGAU ac arholiadau eraill, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Llongyfarchiadau i’r rhai a dderbyniodd eu canlyniadau TGAU ac arholiadau eraill ar ôl eu holl dyfalbarhau, a diolch i’r athrawon a staff ysgol am eu cefnogaeth a gwaith caled gyda’r disgyblion. Pob hwyl iddynt wrth iddynt wneud penderfyniadau am eu dyfodol.

“Mae rhoi’r cyfle i bobl ifanc gyrraedd eu potensial yn rywbeth sy’n bwysig iawn i mi. Rydw i’n credu’n gryf yn yr angen i roi’r rhyddid i addysgwyr godi a gwireddu uchelgeisiau dinasyddion ifanc Cymru.

“A rydw i eisiau rhoi lles ieuenctid Cymru wrth wraidd popeth mewn llywodraeth. Dyna pam yr ydw i, fel rhan o fy ymgyrch arweinyddol, yn cyhoeddi fy mwriad i greu ‘Cynllun Cymru Ifanc’ newydd, cynhwysfawr, i gefnogi pobl ifanc.

“Bydd y Cynllun yn cynnwys camau hybu a gwarchod iechyd corfforol a meddyliol drwy addysg a hamdden, ac yn rhoi gwir gyfle i’n hieuenctid osod yr agenda, gan gynnwys trwy ein Senedd Ieuenctid newydd yng Nghymru. Byddwn yn sefydlu gwasanaeth gwybodaeth a dinasyddiaeth, ‘Cymru Ifanc’ gan ddysgu oddi wrth ‘Young Scot’ yn yr Alban.

“Rwyf am i’n pobl ifanc fod yn gyffrous ynglŷn â thyfu i fynu yng Nghymru, a theimlo’u bod yn cael y gefnogaeth orau i gyrraedd eu potensial, yn academaidd, mewn gwaith, mewn iechyd ac yn gymdeithasol.

“A bwriad fy nghynllun ‘Dewch a’ch Sgiliau Gartref’ fyddai i geisio rhoi pob cyfle i’r rhai sydd wedi gadael i gael addysg a hyfforddiant ddod ‘nôl gartref i gyfrannu at ddyfodol Cymru.”

Mae AS ieuengaf Plaid Cymru, Ben Lake, wedi rhoi ei gefnogaeth i Rhun yn y ras arweinyddol. Dywedodd:

“Mae Rhun wedi amlinellu gweledigaeth gyffrous, ac o bwysigrwydd arbennig yw’r pwyslais mae’n ei roi ar ddyfodol cenedlaethau iau. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod gan Rhun yr angerdd a’r gallu i ysbrydoli’r gefnogaeth eang sydd ei angen i wireddu dyfodol o’r fath. Felly, rwy’n falch o gefnogi ei ymgeisyddiaeth i arwain Plaid Cymru.”