Cenedl i’n Ieuenctid

Wrth i ddisgyblion Cymru dderbyn canlyniadau TGAU heddiw, mae Rhun ap Iorwerth wedi amlinellu rhai o’i gynlluniau i gefnogi pobl ifanc

Ar ddiwrnod canlyniadau arholiadau, mae ymgeisydd arweinyddol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi llongyfarch myfyrwyr Cymru ar eu camp ac wedi amlinellu ei ‘Gynllun Cymru Ifanc’ a fyddai’n rhoi lles ieuenctid wrth galon penderfyniadau Llywodraeth Cymru.

Yn siarad ar ddiwrnod canlyniadau TGAU ac arholiadau eraill, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Llongyfarchiadau i’r rhai a dderbyniodd eu canlyniadau TGAU ac arholiadau eraill ar ôl eu holl dyfalbarhau, a diolch i’r athrawon a staff ysgol am eu cefnogaeth a gwaith caled gyda’r disgyblion. Pob hwyl iddynt wrth iddynt wneud penderfyniadau am eu dyfodol.

“Mae rhoi’r cyfle i bobl ifanc gyrraedd eu potensial yn rywbeth sy’n bwysig iawn i mi. Rydw i’n credu’n gryf yn yr angen i roi’r rhyddid i addysgwyr godi a gwireddu uchelgeisiau dinasyddion ifanc Cymru.

“A rydw i eisiau rhoi lles ieuenctid Cymru wrth wraidd popeth mewn llywodraeth. Dyna pam yr ydw i, fel rhan o fy ymgyrch arweinyddol, yn cyhoeddi fy mwriad i greu ‘Cynllun Cymru Ifanc’ newydd, cynhwysfawr, i gefnogi pobl ifanc.

“Bydd y Cynllun yn cynnwys camau hybu a gwarchod iechyd corfforol a meddyliol drwy addysg a hamdden, ac yn rhoi gwir gyfle i’n hieuenctid osod yr agenda, gan gynnwys trwy ein Senedd Ieuenctid newydd yng Nghymru. Byddwn yn sefydlu gwasanaeth gwybodaeth a dinasyddiaeth, ‘Cymru Ifanc’ gan ddysgu oddi wrth ‘Young Scot’ yn yr Alban.

“Rwyf am i’n pobl ifanc fod yn gyffrous ynglŷn â thyfu i fynu yng Nghymru, a theimlo’u bod yn cael y gefnogaeth orau i gyrraedd eu potensial, yn academaidd, mewn gwaith, mewn iechyd ac yn gymdeithasol.

“A bwriad fy nghynllun ‘Dewch a’ch Sgiliau Gartref’ fyddai i geisio rhoi pob cyfle i’r rhai sydd wedi gadael i gael addysg a hyfforddiant ddod ‘nôl gartref i gyfrannu at ddyfodol Cymru.”

Mae AS ieuengaf Plaid Cymru, Ben Lake, wedi rhoi ei gefnogaeth i Rhun yn y ras arweinyddol. Dywedodd:

“Mae Rhun wedi amlinellu gweledigaeth gyffrous, ac o bwysigrwydd arbennig yw’r pwyslais mae’n ei roi ar ddyfodol cenedlaethau iau. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod gan Rhun yr angerdd a’r gallu i ysbrydoli’r gefnogaeth eang sydd ei angen i wireddu dyfodol o’r fath. Felly, rwy’n falch o gefnogi ei ymgeisyddiaeth i arwain Plaid Cymru.”

Croesawu ymgynghoriad i ostwng yr oed pleidleisio i 16 oed.

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn wedi croesawu’r penderfyniad i ymgynghori ar ganiatáu i bobl 16 oed bleidleisio mewn etholiadau lleol. Mae’n rhan o bapur ymgynghori gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnwys cynnigion am nifer o newidiadau i’r system etholiadol bresennol.
 
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AC:
 
“Rwyf yn gredwr cryf mewn gostwng yr oed pleidleisio i 16, ac mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu dros hyn ers amser. Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn gweld bod ganddyn nhw le yn nemocratiaeth Cymru. Drwy ostwng yr oed pleidleisio ar gyfer yr etholiadau lleol, rydym yn agor drws democratiaeth yn fwy llydan ar gyfer cenhedlaeth newydd o bleidleiswyr. Rwy’n gobeithio y byddai pobl ifanc yn manteisio’n fawr ar y cyfle i allu pleidleisio i newid pethau yn y byd gwleidyddol.”
 
Ychwanegodd Elin Lloyd Griffiths, myfyrwraig 17 oed o Ysgol David Hughes sy’n gwneud cyfnod o brofiad gwaith gyda Rhun yr wythnos yma:
 
“Dwi’n hapus iawn o weld fod y Llywodraeth yn ystyried gostwng yr oed pleidleisio i 16 oed mewn etholiadau lleol. Fel person ifanc dwy ar bymtheg oed, mae hi’n hynod o rhwystredig nad ydw i’n gallu defnyddio fy mhleidlais oherwydd fy oed, yn enwedig gan bod gwleidyddiaeth mor ddiddorol yn yr oes sydd ohoni. Ond, mae gweld fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o lais yr ifanc yn codi calon rhywun, a dwi’n gobeithio mai dim ond y cychwyn fydd hyn ar gyfer sicrhau fod llais y person ifanc yn cael ei glywed yn iawn.”