Ymweliad Ysgolion o Fôn i’r Senedd yn ysbrydoli cwestiwn i’r Prif Weinidog!

Ysgogodd sgwrs gyda disgyblion o ddwy ysgol o Fôn yn y Cynulliad heddiw, gwestiwn gan eu AC lleol Rhun ap Iorwerth, i’r Prif Weinidog.

Cyfarfu Rhun gyda disgyblion o Ysgol y Borth, Porthaethwy, Ysgol Corn Hir, Llangefni, ac Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel, yn y Cynulliad heddiw a cafodd gyfle i ateb eu cwestiynau ar amryw o bynciau. Dywedodd:

“Cefais gwestiynau gwych gan yr ysgolion heddiw – yn gofyn beth wnaeth fy ysbrydoli i fod yn Aelod Cynulliad, beth y buaswn yn hoffi weld yn newid yng Nghymru, ac am beth oedd y drafodaeth ddiweddaraf yn y Cynulliad, a llawer mwy.

“Trafodon ni hefyd ieithoedd tramor modern, a dywedodd y disgyblion eu bod yn credu ei bod hi’n bwysig iawn bod ieithoedd tramor yn cael eu dysgu yn yr ysgol. Rwyf felly yn pasio’r neges hon ymlaen i’r Prif Wenidog yn y senedd y prynhawn yma.”

Wrth siarad yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Cynulliad heddiw, gofynodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae wedi bod yn bleser croesawu disgyblion o dair ysgol gynradd o Ynys Môn i’r Cynulliad heddiw: Ysgol y Borth, Porthaethwy; Ysgol Corn Hir, Llangefni; a Pharc y Bont, Llanddaniel. Mi fues i’n trafod dysgu iaith ychwanegol efo disgyblion Parc y Bont a Chorn Hir, ac mae disgyblion Corn Hir eisoes yn y gynradd yn cael gwersi Ffrangeg yn wythnosol.

“Mi oedden nhw, fel disgyblion dwyieithog, wrth gwrs, yn eiddgar iawn i weld cyfleon i wthio eu ffiniau ieithyddol. Ond, wrth gwrs, mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym ni fod cwymp mawr wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n dysgu iaith dramor yn ysgolion uwchradd Cymru, ac mae’r adroddiad diweddaraf gan y British Council ar dueddiadau ieithoedd yng Nghymru yn dangos cwymp o bron iawn i hanner y disgyblion sy’n sefyll arholiad TGAU a lefel A rŵan mewn iaith dramor fodern o’u cymharu â 15 mlynedd yn ôl.

“Mae cyfres o Weinidogion addysg Llafur wedi methu ag atal y llithro hwnnw, ond a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno rŵan â galwad diweddar y grŵp trawsbleidiol Cymru Ryngwladol ar i’r siarad am yr uchelgais yma o greu Cymru ddwyieithog ‘plws 1’ droi’n weithredu ar hynny, yn enwedig yng nghyd-destun y ffaith bod cwricwlwm newydd ar y ffordd?”

Plant Llannerchymedd yn y Cynulliad

Cafodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth gwmni disgyblion Ysgol Llannerchymedd yn y Cynulliad heddiw.

Fel rhan o’u hymweliad i Gaerdydd, cafodd y disgyblion daith o amgylch y Senedd a chael gweld sedd Ynys Môn yn y siambr, cyn holi eu Haelod Cynulliad am bopeth o deithio o Fôn i’w hoff liw (gwyrdd, wrth gwrs!)

Yn siarad wedi’r ymweliad, dywedodd Rhun:

“Roedd hi’n dda cael cyfarfod gyda phlant ac athrawon o Ysgol Llannerchymedd heddiw. Mae hi wastad yn braf cael croesawu pobl o Fôn i’r Cynulliad iddyn nhw gael gweld lle mae’r penderfyniadau sy’n effeithio arnynt yn cael eu gwneud, ac i’w hatgoffa mai eu hadeilad nhw ydy fan hyn, eu Cynulliad nhw.

“Mae codi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc yn ewendig, a gwneud yn siwr eu bod nhw’n gwybod sut i gymryd rhan, yn bwysig iawn i mi. Mae’r Cynulliad cenedlaethol yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd am senedd ieuenctid, a dwi’n gobeithio y bydd cynifer o bobl a phosib yn cwblhau’r arolwg i ni gael y maen i’r wal gyda hyn a rhoi llais i’n pobl ifanc.”

Disgyblion Bodedern yn lleisio barn ar Senedd Ieuenctid gyda’u AC

Bu Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Bodedern gyda thîm allgymorth y Cynulliad yr wythnos hon i drafod sefydlu Senedd Ieuenctid. Dywedodd:

“Roedd hi’n braf cael sgwrs gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd Bodedern ac i glywed eu barn nhw ar Senedd Ieuenctid i Gymru, rhywbeth yr ydw i’n teimlo’n frwdfrydig iawn amdano.

“Mae’r Cynulliad ar hyn o bryd yn gofyn am farn pobl ifanc fel cam cyntaf tuag at gael y maen i’r wal a byddwn yn annog pobl i ddweud eu dweud trwy’r wefan www.seneddieuenctid.cymru neu i gysylltu gyda mi.”