Ymweliad Ysgolion o Fôn i’r Senedd yn ysbrydoli cwestiwn i’r Prif Weinidog!

Ysgogodd sgwrs gyda disgyblion o ddwy ysgol o Fôn yn y Cynulliad heddiw, gwestiwn gan eu AC lleol Rhun ap Iorwerth, i’r Prif Weinidog.

Cyfarfu Rhun gyda disgyblion o Ysgol y Borth, Porthaethwy, Ysgol Corn Hir, Llangefni, ac Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel, yn y Cynulliad heddiw a cafodd gyfle i ateb eu cwestiynau ar amryw o bynciau. Dywedodd:

“Cefais gwestiynau gwych gan yr ysgolion heddiw – yn gofyn beth wnaeth fy ysbrydoli i fod yn Aelod Cynulliad, beth y buaswn yn hoffi weld yn newid yng Nghymru, ac am beth oedd y drafodaeth ddiweddaraf yn y Cynulliad, a llawer mwy.

“Trafodon ni hefyd ieithoedd tramor modern, a dywedodd y disgyblion eu bod yn credu ei bod hi’n bwysig iawn bod ieithoedd tramor yn cael eu dysgu yn yr ysgol. Rwyf felly yn pasio’r neges hon ymlaen i’r Prif Wenidog yn y senedd y prynhawn yma.”

Wrth siarad yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Cynulliad heddiw, gofynodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae wedi bod yn bleser croesawu disgyblion o dair ysgol gynradd o Ynys Môn i’r Cynulliad heddiw: Ysgol y Borth, Porthaethwy; Ysgol Corn Hir, Llangefni; a Pharc y Bont, Llanddaniel. Mi fues i’n trafod dysgu iaith ychwanegol efo disgyblion Parc y Bont a Chorn Hir, ac mae disgyblion Corn Hir eisoes yn y gynradd yn cael gwersi Ffrangeg yn wythnosol.

“Mi oedden nhw, fel disgyblion dwyieithog, wrth gwrs, yn eiddgar iawn i weld cyfleon i wthio eu ffiniau ieithyddol. Ond, wrth gwrs, mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym ni fod cwymp mawr wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n dysgu iaith dramor yn ysgolion uwchradd Cymru, ac mae’r adroddiad diweddaraf gan y British Council ar dueddiadau ieithoedd yng Nghymru yn dangos cwymp o bron iawn i hanner y disgyblion sy’n sefyll arholiad TGAU a lefel A rŵan mewn iaith dramor fodern o’u cymharu â 15 mlynedd yn ôl.

“Mae cyfres o Weinidogion addysg Llafur wedi methu ag atal y llithro hwnnw, ond a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno rŵan â galwad diweddar y grŵp trawsbleidiol Cymru Ryngwladol ar i’r siarad am yr uchelgais yma o greu Cymru ddwyieithog ‘plws 1’ droi’n weithredu ar hynny, yn enwedig yng nghyd-destun y ffaith bod cwricwlwm newydd ar y ffordd?”