Rhun yn ymweld â Gwylwyr y Glannau Caergybi

Bu Aelod Cynulliad Ynys Môn yn ymweld â Chanolfan Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi i ddysgu mwy am eu gwaith. Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd:

“Ers yr ad-drefnu mawr fu yn strwythurau Gwylwyr y Glannau ledled Prydain ychydgig flynyddoedd diwethaf, mae Caergybi wedi dod yn ganolfan fwy pwysig fyth i’r gwasanaeth. Mae’n edrych ar ol ardal sydd yn ymestyn o ardal y llynoedd i Aberdyfi. Roedd yn bwysig i fi ddeall natur y gwaith hwnnw – sy’n amrywio o reoli traffic llongau ar y môr i ddiogelwch. Cefais gyfle hefyd i drafod gwaith y timau proffesiynol a gwirfoddol sy’n ymwneud a Chwilio ac Achub ar ein Glannau.”

Cafodd Rhun hefyd y cyfle i weld yr hofrenyddion newydd sy’n cael eu defnyddio ar gyfer gwaith Chwilio ac Achub. Ychwanegodd:

“Mae colli’r hofrenyddion RAF melyn cyfarwydd wedi bod yn anodd mewn llawer ffordd, ond cefais weld drosof fy hun cymaint mwy abl a blaengar yn dechnolegol ydi hofrenyddion newydd Gwylwyr y Glannau. Yr hyn sy’n bwysig ydi bod gwasanaeth cyflawn ar gael i warchod y rhai sy’n mynd i drafferthion ar y mor neu ar y mynyddoedd, ac mae’r tim o staff hedfan a staff cefnogol mor ymroddedig ag erioed.”