Rhun ap Iorwerth AC yn annog pobl mewn grwpiau ‘risg’ i gael y brechiad ffliw rhad ac am ddim

Mae Rhun ap Iorwerth yn annog pawb sy’n gymwys i gael y brechiad ffliw rhad ac am ddim i amddiffyn eu hunain rhag cael neu ledu ffliw, salwch sy’n eich gwanhau’n ddifrifol ac sy’n gallu lladd.

Mae Mr ap Iorwerth, sy’n cynrychioli Ynys Môn, wedi ymuno â’r galwadau sy’n cael eu gwneud gan weithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw yn annog pobl 65 oed neu hŷn, gofalwyr, menywod beichiog a phobl a chanddynt rai mathau o salwch hirdymor i wneud apwyntiad gyda’u meddyg teulu lleol a chael y brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn fuan.
Mae pob plentyn dwy a thair oed ar 31 Awst 2016, a phlant yn y dosbarth derbyn a blynyddoedd un, dau a thri yn yr ysgol gynradd hefyd yn gallu cael eu hamddiffyn trwy frechlyn ffliw chwistrell trwyn. Bydd y plant dwy a thair oed yn cael eu brechlyn chwistrell trwyn gan eu meddyg teulu a bydd plant yn y dosbarth derbyn a blynyddoedd un, dau a thri (plant 4 – 7 oed fel arfer) yn cael cynnig eu brechlyn chwistrell trwyn yn yr ysgol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae rhaglen brechu rhag ffliw fawr ar waith ledled Cymru i gynnig brechlynnau rhad ac am ddim i unigolion sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddioddef cymhlethdodau difrifol o ffliw, a’m neges i iddyn nhw yw ‘curwch ffliw cyn iddo’ch curo chi!’

“Y llynedd yng Nghymru cafodd llai na hanner (47%) y bobl dan 65 oed mewn grwpiau ‘risg’ eu brechiad GIG rhad ac am ddim, ac mae mawr angen inni gynyddu’n sylweddol faint o bobl sy’n cael eu brechu er mwyn atal y salwch hwn y gellir ei rwystro i raddau helaeth rhag lledu.”

Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Argymhellir brechiad ffliw yn gryf ar gyfer pawb sy’n wynebu risg uwch o ffliw difrifol, grŵp sy’n cynnwys pobl 65 oed neu drosodd, pobl a chanddynt gyflyrau iechyd hirdymor, menywod beichiog yn ogystal â phlant dwy i saith oed. Mae brechiad ffliw ar gael yn rhad ac am ddim i’r holl grwpiau hyn, ac i bobl sy’n ofalwyr di-dâl. Eleni, mae’r GIG hefyd yn cynnig brechiad rhad ac am ddim i oedolion angheuol o ordew – sef oedolion a chanddynt fynegai màs y corff (BMI) o 40 neu’n uwch.”

Ychwanegodd Dr Roberts: “Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael ffliw fel arfer yn gwella ar ôl 4-5 diwrnod o dwymyn, cur pen/pen tost, cyhyrau’n gwynegu a dolur gwddf/gwddf tost. Ond gall ffliw fod yn fwy difrifol a gall olygu gorfod cael gofal ysbyty. Y gaeaf diwethaf, fel yn y rhan fwyaf o aeafau, cafwyd sawl marwolaeth oherwydd ffliw.”
Mae’n bosib atal ffliw trwy frechiad syml, diogel sy’n cael ei gynnig bob blwyddyn gan feddygon teulu ac mewn rhai fferyllfeydd cymunedol i bawb mewn grwpiau ‘risg’. Gwneir hynny er mwyn amddiffyn rhag haint difrifol y gellir ei osgoi gan y gall ffliw wneud cyflwr iechyd sydd gennych yn barod yn waeth.

Caiff firws y ffliw ei wasgaru’n rhwydd trwy ddiferion sy’n cael eu chwistrellu i’r awyr pan mae person sydd wedi’i heintio yn pesychu neu’n tisian. Mae cyswllt uniongyrchol â dwylo neu arwynebau a heintiwyd hefyd yn gallu gwasgaru’r haint. Gall ledu’n gyflym iawn, yn enwedig felly mewn cymunedau caeedig fel ysbytai, cartrefi preswyl ac ysgolion.
Mae’r grwpiau risg yn cynnwys: pob menyw feichiog, ac unigolion o 6 mis oed a chanddynt glefyd anadlol cronig, gan gynnwys asthma cymedrol i ddifrifol, cyflyrau cronig y galon yn cynnwys angina a methiant y galon, clefyd yr arennau, problemau â’r iau/afu neu anhwylderau niwrolegol (megis strôc a strôc ysgafn) yn ogystal ag unrhyw un â diabetes. Argymhellir hefyd y dylai oedolion angheuol o ordew gael brechiad ffliw.

Grŵp arall sy’n wynebu risg sylweddol uwch o ffliw difrifol yw’r sawl a chanddynt systemau imiwnedd gwannach oherwydd clefyd neu driniaeth gyda rhai mathau o gyffuriau, megis pobl sy’n cael triniaeth am gancr neu gyflyrau fel arthritis gwynegol difrifol.

Mae pawb sy’n 65 oed a throsodd yn wynebu mwy o risg o ffliw ac argymhellir y dylent gael brechiad ffliw bob blwyddyn.

Gall darllenwyr gael gwybod mwy am sut i gael eu brechlyn rhad ac am ddim trwy fynd i www.beatflu.org.uk neu www.curwchffliw.org.uk, neu trwy ddod o hyd i Beat Flu neu Curwch Ffliw ar twitter a facebook.