Angen strategaeth newydd i gysylltu â Chymry dramor

Mewn darlith ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn, mae’r Aelod Cynulliad lleol wedi galw am strategaeth glir gan Lywodraeth Cymru i gysylltu â’r diaspora Cymreig. Dywedodd y gallai Cymru elwa’n fawr drwy gryfhau ei pherthynas gyda Chymry alltud, neu rai o dras Cymreig sy’n byw mewn gwledydd dramor a dywedodd bod angen “eu perswadio nhw – hyd yn oed o bell – i wneud cyfraniad at ddyfodol ac at ddatblygiad ein cenedl”.

Wrth draddodi araith flynyddol Undeb Cymru a’r Byd, dywedodd yr AC, sy’n cadeirio’r Grwp Trawsbleidiol yn y Cynulliad, ‘Cymru Rhyngwladol’:

“Mae Cymru wedi bod yn hael ei hallforion, a’i glo, ei llechi, ei haearn wedi gadael marc ym mhedwar ban byd, ond yr allforion y gallwn ni fanteisio arnyn nhw o hyd ydi’n pobl ni.”

Cymharodd sefyllfa Cymru gydag Iwerddon a’r Alban, sydd â strategaethau clir ar gysylltu â’i halltudion. Ers 2014 mae gan Lywodraeth Iwerddon Weinidog sydd yn gyfrifol am ddatblygu’r berthynas gyda Gwyddelod dramor. Mae Llywodraeth Yr Alban wedi cynnal dau brosiect ‘Homecoming Scotland’ i annog Albanwyr alltud i ailgysylltu a’u mamwlad.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ymdrechion mewn nifer o wahanol ffyrdd i adeiladu cysylltiadau dramor, yn cynnwys gyda Chymry alltud, ond yn ol AC Ynys Môn, mae angen strategaeth glir i glymu’r cyfan ynghyd a gosod amcanion pendant:

“Rydan ni angen ein Homecoming Scotland ein hunain, rydan ni angen ein Gweinidog Diaspora fel sydd gan Iwerddon. Rydan ni angen cymryd hyn o ddifri, i ddangos y tu hwnt i amheuaeth ein bod ni’n gweld hyn fel blaenoriaeth.”