Bu Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, ddoe yn cwestiynau Lywodraeth Cymru am gynllun olynol Cyflymu Cymru ar ran cymunedau ar Ynys Môn sy’n dal i aros am gysylltiad band eang cyflym.
Ym mis Ebrill eleni, gwnaeth AC Ynys Môn gais i etholwyr ar facebook ac yn y papurau lleol i roi gwybod iddo am eu profiad o fand eang, ac yn benodol lle mae problemau’n dal i fodoli ar ôl i’r cynllun Cyflymu Cymru ddod i ben.
Roedd yr ymateb a gafodd yn dangos er mai’r broblem mewn rhai ardaloedd oedd fod pobl yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym ond nad oeddent yn ymwybodol o hynny, mewn ardaloedd eraill, mae problemau band eang yn dal i fodoli gyda rhywfaint o waith wedi’i wneud, ond gyda rhai eiddo wedi colli allan o drwch blewyn.
Felly, defnyddiodd Rhun sesiwn gwestiynau yn y Cynulliad i Ysgrifennydd perthnasol y Cabinet i ofyn iddi sicrhau y byddai’r ardaloedd hyn yn cael blaenoriaeth o dan y cynllun olynol i Cyflymu Cymru.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr ap Iorwerth:
“Rydw i wedi cysylltu â chi fel Gweinidog yn y gorffennol yn adrodd am broblemau efo band llydan yn Ynys Môn. Mi wnes i apêl yn ôl ym mis Ebrill am y wybodaeth ddiweddaraf. Mae’n amlwg bod yna nifer o ardaloedd sydd wedi colli allan o drwch blewyn, o bosibl, ar y rhaglen Cyflymu Cymru—mae ardaloedd Llanddona, Llansadwrn, Brynsiencyn, Cefniwrch a Rhyd-wyn yn rhai sydd wedi amlygu’u hunain.
“Yn yr ardaloedd hynny, mi oedd gwaith wedi dechrau ar baratoi ar gyfer cysylltiad. Yn amlwg, mi oedd yna siom fawr o weld y rhaglen yn dod i ben heb i’r gwaith gael ei gwblhau. A ydych chi mewn sefyllfa i allu rhoi sicrwydd i’r etholwyr yma y byddan nhw’n flaenoriaeth—hynny yw, y bydd cwblhau gwaith a oedd wedi’i ddechrau yn flaenoriaeth o dan y rhaglen newydd, pan ddaw honno?”
Yn ei hymateb, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet fod hynny’n fater o drafod rhwng Llywodraeth Cymru a BT, ond eu bod nhw dal yng nghanol y broses gaffael ar hyn o bryd ar gyfer y rhaglen newydd.