Sylwadau’r Prif Weinidog ar gyflwyno’r brechlyn yng Nghymru yn “rhwystredig iawn”

Mae sylwadau’r Prif Weinidog ar arafwch cyflwyno’r brechlyn yng Nghymru yn “rhwystredig iawn”, meddai Gweinidog Iechyd yr wrthblaid, Rhun ap Iorwerth AS.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mai un o’r rhesymau nad oedd mwy o’r cyflenwad wedi cael ei ddefnyddio ar unwaith oedd er mwyn atal “brechwyr rhag sefyll o gwmpas heb ddim i’w wneud”.

Honnodd Mark Drakeford hefyd nad oedd sefyllfa Cymru y tu ôl i Loegr wrth gyflwyno’r brechlyn “y peth pwysicaf” a bod yr amrywiad rhwng niferoedd cyflwyno Cymru a Lloegr yn dangos “gwahaniaethau ymylol iawn”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS dros Ynys Môn,

“Ymddengys bod Cymru bellach y tu ôl i Loegr yn aruthrol o ran cyflwyno’r brechlyn, felly mae gweld y Prif Weinidog yn ymlacio ynglŷn ag arafwch cyflwyno’r brechlyn yma yn rhwystredig iawn, iawn.

“Mae’r data diweddaraf o GIG Lloegr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod Cymru ar ei hôl hi. Mae ffigurau o Ionawr 17 yn dangos bod mwy na 3.7 miliwn dos wedi cael eu rhoi yn Lloegr – bron i hanner miliwn ohonynt yn ail ddos. Yng Nghymru mae ffigurau o 16 Ionawr yn dangos bod 126,504 o frechlynnau wedi’u rhoi, gan gynnwys dim ond 129 o’r rheiny’n ail ddos.

“O gymharu maint y boblogaeth, pe bai Cymru’n brechu ar yr un raddfa, byddem wedi taro tua 190,000. Nid yw cymharu Cymru a Lloegr bob amser yn ddefnyddiol – am amryw resymau, rydyn ni ar y blaen ar rai pethau, a Lloegr ar y blaen ar eraill. Ond lle mae’n rhaglen pedair gwlad, mae angen i ni wybod ei bod hi’n sefyllfa deg.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru roi diweddariad ar frechlynnau sydd ar gael i Gymru – o bob math – ynghyd â niferoedd sydd wedi’u brechu yng Nghymru o gymharu â Lloegr, gan ddefnyddio’r gwahanol fathau o frechlyn, ac ar y cyflenwad rhagamcanol o frechlynnau yn yr wythnosau i ddod. Pam rydyn ni’n dogni yma yng Nghymru?

“Mae tryloywder yn hanfodol ar hyn o bryd fel y gellir mesur cynnydd, ac y gellir dal y ddwy lywodraeth yn atebol a’u cwestiynu ar gynnydd lle bo angen.”