Risg “cofrestr coch” oherwydd prinder meddygon a nyrsys

Plaid Cymru yn lleisio pryderon wrth i adroddiadau am risg uchel prinder gweithlu ddod o bob rhan o Gymru.

Prinder meddygon a nyrsys ledled Cymru yw un o achosion risg difrifol ar draws ardaloedd y saith bwrdd iechyd, datgelodd Plaid Cymru heddiw.
Mae Plaid Cymru wedi datgelu cofrestri risg pob un bwrdd iechyd yng Nghymru – a dywed pob un fod prinder staff yn peri risg uchel.

Mae cofrestri risg yn cael eu cynhyrchu gan bob bwrdd iechyd fel gofyniad cyfreithiol, ac y maent yn amlygu’r risgiau mwyaf arwyddocaol i weithrediadau beunyddiol bwrdd iechyd. Fel rheol, maent yn defnyddio trefn o oleuadau traffig i gategoreiddio risg yn ôl tebygolrwydd a difrifoldeb.

Ar hyn o bryd, amlygwyd prinder staff fel risg “goch” i ddiogelwch a chynaliadwyedd gwasanaethau gan bob bwrdd iechyd.

Mae’r cofrestri risg yn lleisio pryderon am allu’r staff i barhau i ddarparu’r gwasanaethau mwyaf sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu.
Yng Nghwm Taf, noda cofrestr risg y bwrdd iechyd fod:

“Mwyafrif y risgiau a aseswyd yn gysylltiedig a phrinder gweithlu ac effaith gysylltiol hyn, sy’n cynnwys prinder meddygon teulu a chynaliadwyedd gofal sylfaenol.”

Adleisir y pryderon hyn mewn byrddau eraill. Mae cofrestr risg Hywel Dda yn nodi bod:

“Perygl na fydd meddygfeydd meddygon teulu bellach yn gallu cyflwyno’r holl wasanaethau i’r cleifion a gofrestrwyd. Achosir hyn gan brinder yn y gweithlu clinigol i gyflawni yn erbyn y model presennol o wasanaeth meddygon teulu.”

Nid yw’r problemau yn gyfyngedig i ofal sylfaenol na gwasanaethau y tu allan i oriau, ond maent i’w gweld ar wardiau penodol hefyd. Mae cofrestr risg bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn nodi fod “gwasanaethau i fabanod newydd-anedig a meddygaeth plant yn faes pryder penodol”, yn ogystal â phroblemau gydag anabledd dysgu a gwasanaethau iechyd meddwl.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

“Mae’r cofrestri risg yn ei gwneud yn berffaith blaen fod y prinder presennol o feddygon a nyrsys yn peryglu gofal cleifion, mewn ysbytai ac yn y gymuned. Dyw hyn ddim wedi ei gyfyngu i un ardal neu ddwy, chwaith – mae pob bwrdd iechyd wedi rhoi cod coch ar y risg a achosir gan y prinder hwn.

“Bu Plaid Cymru yn rhybuddio ers blynyddoedd lawer y buasai prinder staff yn arwain at wasanaethau yn mynd yn anghynaladwy, a dyna fu llawer o arbenigwyr yn ddweud hefyd. Nawr mae’r peth ar ddu a gwyn gan y byrddau iechyd: mae methiant Llywodraeth Cymru i recriwtio digon o staff meddygol yn peryglu gwasanaethau mwyaf sylfaenol ein GIG.

“Mae naws bryderus papurau’r byrddau iechyd yn hollol groes i’r hunan-fodlonrwydd a ddangosir gan Lywodraeth Lafur Cymru yn hyn o beth. Tra bod y byrddau iechyd yn dweud wrthym fod y prinder staff wedi creu bygythiad difrifol, mae’r llywodraeth wedi rhoi’r gorau i ddatblygu addysg feddygol ym Mangor ac wedi dweud wrthym yn ddiog ddigon fod eu hymgyrchoedd recriwtio yn “gweithio’n dda”. Rwy’n siŵr y buasai’r byrddau iechyd yn dweud wrthym nad yw hynny’n ddigon da.

“Mae angen cymryd bygythiad dwys fel hyn o ddifrif, a rhaid i’r llywodraeth weithredu rhag blaen i leihau’r risg. Mae Plaid Cymru wedi gosod allan gynllun i recriwtio a hyfforddi mil o feddygon yn ychwanegol i’r GIG, a phum mil o nyrsys. Rydym hefyd wedi gosod allan gynlluniau i sefydlu ysgol feddygol ym Mangor. Rhaid i’r llywodraeth weithredu’r cynllun hwn yn awr er lles cleifion.”