Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 16 08 17

Gwnaeth Ynys Môn ei hun yn falch yr wythnos diwethaf! Adeiladwyd llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol ar waith caled ac ymroddiad unigolion a chymunedau ar draws yr ynys dros y blynyddoedd diwethaf. Cafodd targedau codi arian eu chwalu, a chyflwynwyd rhaglen o gystadlaethau a digwyddiadau a ysbrydolodd bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt i ddod i Ynys Môn. Maent yn gadael wedi cael y profiadau cyfoethocaf. Mae’r nifer fawr o negeseuon diolch i’r ynys am Eisteddfod wych yn dweud y cyfan. Doedd y rhywfaint o law yn gynnar yn yr wythnos ddim yn mynd i luchio dŵr oer ar yr Eisteddfod yma!

Dwi eisiau llongyfarch yn arbennig plant a phobl ifanc Ynys Môn a serenodd. O’r cyngerdd agoriadol – un o’r gorau mewn unrhyw Eisteddfod erioed, yn fy marn i! – i enillwyr cystadlaethau, fel unigolion ac aelodau o wahanol gorau, grwpiau a bandiau, bydd cannoedd o bobl ifanc wedi cael profiadau bythgofiadwy. Fe wnai sôn yn arbennig am Gôr Ieuenctid Môn, a’u harweinydd Mari Lloyd-Pritchard, a enillodd un o wobrau’r Eisteddfod – ‘Côr yr Wyl’ yn hwyr ar nos Sadwrn. Mae unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am y safon o ganu corawl yr ydym yn ei fwynhau yng Nghymru ar hyn o bryd yn gwybod bod hyn yn dipyn o gamp. Llongyfarchiadau mawr!
 
Roedd hi’n wythnos brysur i mi fel eich Aelod Cynulliad hefyd! Mae’r Eisteddfod a gwleidyddiaeth a dadleuon yn mynd law yn llaw, a thu hwnt i gystadlaethau’r prif bafiliwn, mae’r wyl yn gartref i drafodaethau di-ri ar ddyfodol ein gwlad.
 
Fe’m gwahoddwyd i draddodi darlith flynyddol ‘Cymru a’r Byd’ eleni, a dewisais i ganolbwyntio ar yr angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth i ymgysylltu’n well â’r diaspora Cymreig, a’r rhai sy’n deillio o Gymru (neu dim ond gyda diddordeb yng Nghymru) fel y gallwn elwa fel cenedl. Y mwyaf o bobl sy’n lledaenu’r gair am Gymru yn rhyngwladol, neu sy’n dychwelyd yma i wario neu fuddsoddi, yna gorau’n byd.
 
Bûm hefyd yn cadeirio digwyddiad yn galw am hyfforddi Meddygon ym Mhrifysgol Bangor. Mae Llywodraeth Cymru yn dangos diffyg arweinyddiaeth ac uchelgais gwirioneddol ar hyn, ond mae ei angen ar ein GIG a’n cleifion.

Felly, mae’r Eisteddfod wedi mynd a dod, a gadael lot o atgofion hapus. O’r George ym Modedern i’r Iorwerth ym Mryngwran a gwestai di-ri, mae wedi gadael etifeddiaeth economaidd hefyd, gyda llawer o bobl yn siŵr o ddychwelyd i’r ynys ar ôl y croeso cynnes.

Ac wrth gwrs, mae Sioe Ynys Môn wych yr wythnos hon yn profi bod ein hynys yn gallu trefnu digwyddiadau llwyddiannus bob blwyddyn. Gadewch i ni nawr gynllunio ar gyfer Gemau’r Ynysoedd lwyddiannus yn 2025!