Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 10.05.17

Yn gynta’i gyd, llongyfarchiadau i’r holl gynghorwyr a gafodd eu hethol i gynrychioli eu cymunedau ar Gyngor Môn yn yr etholiad yr wythnos diwethaf. Rwy’n gwybod y byddwch i gyd yn ymwybodol o’r ymddiriedaeth mae eich cymunedau wedi ei roi ynddoch, ac edrychaf ymlaen i weithio gyda chi dros y blynyddoedd nesaf.

Rydw i hefyd eisiau llongyfarch pawb a roddodd eu henwau ymlaen yn yr etholiad yma. Mae pawb a gyflwynodd syniadau ac a weithiodd yn galed i ennill cefnogaeth wedi cyfrannu’n fawr i’r broses ddemocrataidd.

Cafodd Plaid Cymru ei etholiad leol orau erioed ar yr ynys, ac rydw i’n dymuno’n dda i Llinos Medi Huws wrth iddi arwain ei thîm o 14 o gynghorwyr. Hoffwn gymryd y cyfle hwn hefyd i ddiolch i Ieuan Williams am ei arweinyddiaeth o’r cyngor ers 2013. Yr hyn mae’r 4 blynedd ddiwethaf wedi ei ddangos ydy fod y grŵp sy’n rheoli a’r wrthblaid yn gallu gweithio’n adeiladol er lles yr ynys pan mae’n cyfrif, ac rydw i’n gobeithio y bydd hyn yn parhau yn yr awdurdod newydd.

Rydym i gyd yn falch o allu galw Ynys Môn yn gartref i ni, ac allwn i ddim dymuno cael gwell cymuned i fyw ynddi ac i fagu fy nheulu, ond mae gennym ein heriau, ac yn y blynyddoedd i ddod mae’n rhaid i ni i gyd fel aelodau etholedig fynd i’r afael a’r dasg o ddelio hefo nhw.

Mae gadael yr UE yn bennaf ymysg y rheiny. Mae angen atgoffa llywodraeth Prydain yn wastadol am ein anghenion, a chofio fod sefyllfa Cymru ac Ynys Môn yn whanol mewn nifer o ffyrdd i rannau eraill o Brydain. Mae Lloegr yn mewnforio mwy na mae’n allforio o’r UE, er enghraifft, gyda Cymru yn allforiwr net. Dyna pam mae’r farchnad sengl mor bwysig i ni ac i gwmniau yma ym Môn sydd yn allforio i’r UE ac ymhellach. Porthladd Caergybi yw’r prif gyswllt cludo ffordd rhwng Prydain – ac Erwop gyfandirol – a’r Iwerddon, felly allwn ni ddim fforddio i gael ffin galed a allai gostio’n ddrud i ni mewn masnach a swyddi. Ac mae’n rhaid i Brydain sicrhau fod ein ffermydd teuluol, sydd mor hanfodol i economi a chymdeithas yr ynys, yn cael eu cefnogi.

Dyna pam yr ydym ni angen gymaint o brofiad a phosib yn ein cynrychiolaeth yn San Steffan. Ar ôl 26 mlynedd fel AS ac AC, a 4 blynedd mewn llywodraeth fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru, mae gan Ieuan Wyn Jones y profiad hwnnw. Edrychaf ymlaen at weithio gyda fo.