Rhun yn dweud na i beilonau yn ei ymateb i Ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol

Dyma ymateb Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, i ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol ar gysylltiadau trydan gogledd Cymru:

Annwyl Syr / Madam,

Cysylltiad Gogledd Cymru – Cam 2 yr Ymgynghoriad

Ysgrifennaf mewn ymateb i Gam 2 Ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol ar Gysylltiad gogledd Cymru, i fynegi fy ngwrthwynebiad unwaith eto i’r cynllun arfaethedig ar gyfer coridor newydd o geblau trosglwyddo uwchben a pheilonau ar draws Ynys Môn, a fy ffafraeth tuag at ateb arall.

Ar ôl siarad gyda nifer o drigolion a mudiadau lleol, a mynychu cyfarfodydd cyhoeddus ar y pwnc, hoffwn gyflwyno’r sylwadau canlynol ar fy rhan i ac ar ran y mwyafrif o f’etholwyr:

• Mae mwy a mwy o etholwyr yn cysylltu gyda mi yn ddyddiol, yn siomedig ac yn flin gyda’r cynigion.

• Nid oes gan f’etholwyr llawer o ffydd yn y broses ymgynghori. Mae ganddynt bryderon fod llawer o bobl dal ddim yn ymwybodol o’r ymgynghoriad presennol, neu ddim yn ymwybodol o’i arwyddocâd ac effaith posib ar eu bywydau.

• Mae’n siomedig, er bod ymgynghoriad cyntaf y Grid wedi dangos yn glir fod y mwyafrif llethol o bobl ddim yn ffafrio peilonau, fod yr ail ymgynghoriad yn dal i ganolbwyntio ar yr opsiwn yma. Mae Ynys Môn wedi siarad yn glir ar y mater hwn ac nid ydym yn derbyn mai llinellau trydan uwchben yw’r unig opsiwn.

• Mae’r Grid Cenedlaethol yn cyfaddef y byddai dewis arall megis cebl tanfor yn dechnegol ymarferol, er yn heriol, ond mae’n ymddangos mai’r gost yw’r ffactor allweddol. Mae hynny’n golygu bod gofyn i bobl Ynys Môn – trwy’r effaith ar eu tirlun, gwerth eu heiddo a’r diwydiant twristiaeth lleol – sybsideiddio prisiau ynni ar gyfer gweddill y DU. Byddai, byddai opsiwn arall yn fwy costus, ond byddai’n golygu rhannu costau’r prosiect ymhlith miliynau o dalwyr biliau trydan, wedi’i hymestyn dros gyfnod o ddegawdau. Credaf yn gryf ei bod hi’n amser rhoi mwy o bwys ar gynlluniau amgen.

• Dylai pob opsiwn dal i fod ar y bwrdd – o dan y môr ac o dan y ddaear.

• Cyhoeddodd y Grid Cenedlaethol fod ceblau tanddaearol am gael eu gosod yn lle peilonau yn Eryri, New Forest a’r Peak District i wella’r olygfa.. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth o’r angen i sicrhau bod ein hamgylchedd yn cael ei warchod a bod angen ystyried mwy na dim ond cost. Efallai nad ydy Ynys Môn yn barc cenedlaethol, ond wrth i ni wynebu ail linell o beilonau ar draws yr ynys, mae’n rhaid i’r Grid gydnabod y niwed fyddai hynny’n ei wneud ac edrych eto ar sut i sicrhau y gallwn ni chwilio am ateb arall.

Ni fyddaf yn cyflwyno sylwadau ar y llwybrau gwahanol a gynigir. Wrth wahodd pobl i nodi eu ffafriaeth ar gyfer un llwybr neu’i gilydd, rydych yn gofyn i f’etholwyr gymeradwyo’r egwyddor o linell uwchben. Mae’n rhaid i’r Grid Cenedlaethol beidio anwybyddu’r neges graidd sydd wedi cael ei wneud yn glir yn eich ‘ymgynghoriad’, hynny yw bod y mwyafrif llethol o ymatebwyr, a mwyafrif llethol o bobl Ynys Môn, yn gwrthwynebu UNRHYW ddatblygiad o geblau uwchben yn y termau cryfaf posibl.

Gofynnaf i chi unwaith eto i ystyried yn ofalus pryderon pobl leol ac i wneud y buddsoddiad angenrheidiol mewn ateb arall na fyddai’n cael cymaint o effaith negyddol ar amgylchedd, golygfeydd, twristiaeth, economi a lles yr ynys.

Yn gywir,

RHUN AP IORWERTH
Aelod Cynulliad Ynys Môn