Rhun yn Cefnogi Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi helpu Cymorth Canser Macmillan i hyrwyddo Bore Coffi Mwya’r Byd, sef prif ddigwyddiad codi arian yr elusen.

Dyma’r wythfed flwyddyn ar hugain inni gynnal y Bore Coffi a bu Rhun yn mwynhau paned a chacen yn y digwyddiad codi ymwybyddiaeth yn yr Oriel yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Roedd Bronwen, bws gwybodaeth a chymorth canser Macmillan, a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer Cymru, hefyd wedi’i barcio ger yr adeilad eiconig.

Bu Aelodau’r Cynulliad yn helpu Macmillan i ddathlu pen blwydd cyntaf y bws, a lwyddodd i gyrraedd dros 37,000 o bobl mewn cymunedau ledled Cymru yn 2017.

Wrth sôn am gefnogi’r digwyddiad elusennol, dywedodd yr AC ar gyfer Ynys Môn, “Mae Bore Coffi Mwya’r Byd yn ddigwyddiad codi arian gwych sy’n cael ei gynnal mewn cartrefi, ysgolion a gweithleoedd ledled Cymru. Mae’n ddigwyddiad cymdeithasol hyfryd ac yn ffordd wych o ddod ynghyd, rhannu darn o gacen a phaned a chodi arian i elusen.

“Rydym yn gwybod y bydd un o bob tri ohonom yn cael canser. Bob blwyddyn yng Nghymru, mae 19,000 o bobl yn cael y newyddion torcalonnus fod canser arnynt. Gall canser effeithio ar bob agwedd ar fywyd person, o’u bywyd o ddydd i ddydd a’u perthynas ag eraill i’w sefyllfa ariannol a’u hiechyd meddwl.

Ychwanegodd, “Bydd yr afiechyd hwn yn cael effaith bersonol ar fywydau ein teuluoedd, ein ffrindiau, ein cyd-weithwyr a’n cymdogion yn ein cymunedau a dyna pam rwyf yn cefnogi Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan a Chymorth Canser Macmillan.”

Meddai Richard Pugh, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru:

“Mae’n wych gweld Aelodau’r Cynulliad yn cefnogi Macmillan yng Nghymru a hoffem ddiolch i Rhun ap Iorwerth am y gefnogaeth.

“Mae disgwyl i nifer y bobl sy’n byw gyda chanser yng Nghymru gyrraedd tua 240,000 erbyn 2030, ac o’r herwydd mae’r galw am wasanaethau Macmillan yn cynyddu o hyd, ond rydym yn dibynnu ar haelioni’r cyhoedd i allu darparu’r cymorth hwn.

“Y llynedd yng Nghymru, fe wnaethom ni godi ychydig dros £1.2 miliwn, sy’n brawf o ba mor wych a hael ydym ni fel cenedl yng Nghymru. Rydym ni’n gobeithio codi cyfanswm yr un mor wych neu hyd yn oed ragor eleni.

“Rydym ni wrth ein boddau bod Bronwen, ein bws gwybodaeth a chymorth, wedi’i barcio y tu allan i adeilad y Pierhead. Roedd yn gyfle gwych i Aelodau’r Cynulliad ddod i weld y bws, sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer Cymru. Mae Bronwen yn cael effaith mor gadarnhaol ar y cymunedau y mae’n ymweld â hwy. Rydym ni’n hynod o falch o Bronwen a’i thîm ac edrychwn ymlaen at barhau i adeiladu ar sail ei llwyddiant.”

Os hoffech gofrestru i gynnal Bore Coffi Mwya’r Byd ffoniwch 0300 1000 200 neu os hoffech ddarganfod bore coffi yn eich ardal chi ewch i www.macmillan.org.uk/coffee.

Am ragor o wybodaeth neu gymorth ynghylch canser, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00 (8am i 8pm Dydd Llun i Ddydd Gwener) neu ewch i www.macmillan.org.uk.