Rhun yn Cadeirio cyfarfod am bryderon Band Llydan

Bydd Gweinidog o Lywodraeth Cymru, Julie James, yn ymweld â Môn yn ystod yr wythnosau nesaf i siarad mewn cyfarfod cyhoeddus i drafod materion band eang, a bydd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth yn Cadeirio.

Mae AC Ynys Môn, Mr ap Iorwerth, wedi arwain ymgyrch barhaus ar yr ynys i wella seilwaith band eang, a wedi llwyddo i gael llwyddiant nodedig mewn ardaloedd fel Llansadwrn a chymunedau eraill ar draws yr ynys sydd wedi cael anawsterau arbennig gyda’u cysylltiadau band eang.
Mae Mr ap Iorwerth yn estyn gwahoddiad i bawb ar yr ynys sydd â phroblemau gyda’u cysylltiad band eang i fynychu’r cyfarfod er mwyn mynegi ei pryderon. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar y 29ain o Dachwedd yn Neuadd Bentref Bodedern am 6pm.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwy’n falch iawn o allu cadeirio cyfarfod mor bwysig gyda Julie James, Gweinidog o Llywodraeth Cymru yn bresennol, i roi cyfle i drigolion Ynys Môn fynegi eu barn am sefyllfa band eang sydd yn dal i fod ddim yn ddigon da.

“Ers cymryd y swydd yn 2013, mae mater cysylltiadau a seilwaith band eang wedi bod yn un o’r rhai mwyaf cyffredin i’w dwyn i’m sylw, ac rwy’n falch bod fy swyddfa wedi gallu trefnu’r cyfarfod hwn i roi cyfle i bobl godi y mater yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru.

“Mae llawer o bobl ar yr ynys wedi derbyn cysylltiad band eang erbyn hyn, wrth gwrs, ond mae llawer o etholwyr yn dal i gysylltu i ddweud wrthyf ynglŷn a’r broblemau mae nhw’n ei gael gyda’r gwasanaeth.

“Rwy’n falch bod y cyfarfod yma wedi ei drefnu ar y 29ain o Dachwedd – er mwyn i rheiny sydd yn wynebu problemau gyda’u cysylltiadau band eang, ddod draw a rhannu ei barn a’i profiadau. Edrychaf ymlaen at eich gweld yno!”