Ymateb Rhun i’r cyhoeddiad am HSBC Caergybi

Mewn ymateb i gyhoeddiad HSBC y bydd yn cau canghennau yng Nghymru – gan gynnwys cangen Caergybi – dywedodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Rydw i’n flin iawn o glywed bod HSBC yn cau cangen Caergybi ym mis Mehefin. Mae’r banciau i weld yn troi eu cefnau ar y stryd fawr. Rydw i wedi cysylltu gyda HSBC i ofyn am gyfarfod i drafod y dyfodol i staff a chwsmeriaid lleol.”