Rhun yn pwyso ar Barclays i ail-feddwl am Amlwch

Bu Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn cyfarfod uwch-reolwyr Barclays yn lleol a chenedlaethol i drafod eu penderfyniad i gau cangen Amlwch.

Yn siarad wedi’r cyfarfod, dywedodd:

“Yn amlwg roeddwn am iddynt ailystyried, ond mae’n amlwg na fyddan nhw’n gwneud hynny. Gofynnais yn benodol iddyn nhw oedi’r dyddiad cau nes y gallwn sicrhau bod gwasanaeth peiriant arian 24 awr newydd yn cael ei sefydlu, a gofynnais hefyd am oedi tan ar ôl y Nadolig. Does dim bwriad ganddynt i newid y dyddiad cau. Mae’n siom fawr, ac yn ergyd i’w cwsmeriaid ffyddlon yn ardal Amlwch, a thrigolion y dref yn gyffredinol.”

“Byddaf yn parhau i bwyso am unrhyw fesurau all roi pwysau neu orfodaeth ar fanciau i gydweithio er mwyn cynnal gwasanaethau yn ein hardaloedd gwledig. Mae’n amlwg mai canoli gwasanaethau fydd yn digwydd mwy a mwy, ac y bydd hynny’n golygu cau mwy a mwy o ganghennau.

Mae’r sefyllfa yn argyfyngus, ac mae banciau yn anghofio mae eu cwsmeriaid – hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig – sy’n eu helpu i wneud eu helw.

“Eisoes rwyf wedi codi’r mater o gau banciau mewn cwestiynau a dadleuon yn y Cynulliad, a byddaf yn chwilio am gyfleoedd i wneud hynny eto.”