Rhun ap Iorwerth yn llongyfarch ymgeisydd cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru Ynys Môn

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Mon Rhun ap Iorwerth wedi llongyfarch Ifan Wyn Erfyl Jones am iddo gael ei ddewis o blith saith ymgeisydd i fod yn gynrychiolydd yr Ynys yn Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru.

Gyda’r Llywydd Elin Jones AC yn cadarnhau canlyniadau Etholiadau Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru cyn y Cyfarfod Llawn yn y Cynulliad y prynhawn yma, cadarnhawyd Ifan Wyn Erfyl Jones fel cynrychiolydd cyntaf Ynys Môn yn Senedd Ieuenctid Cymru.

Bu i Mr ap Iorwerth gadeirio sesiwn hustings ar gyfer saith ymgeisydd Senedd Ieuenctid Cymru Ynys Mon ym Mharc Gwyddoniaeth Menai yn Gaerwen ym mis Tachwedd a roedd o wedi mwynhau cyfarfod pob un ohonynt.

Wrth gynnig ein llongyfarchiadau i Ifan, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Llongyfarchiadau mawr i Ifan Wyn Erfyl Jones ar gael ei ethol i fod yn gynrychiolydd Ynys Môn yn Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru, mae hwn yn amser hynod gyffrous i wleidyddiaeth yng Nghymru ac rwy’n siŵr y bydd Ifan yn llais cryf i gymunedau ifanc angerddol Ynys Môn.

“Mi wnes i gynnal a chadeirio hustings i ymgeiswyr Senedd Ieuenctid Ynys Môn ym mis Tachwedd, a dywedais wrthynt i gyd, eu bod nhw bob un yn ddewr iawn i fod yn sefyll etholiad, a rydw i’n gobeithio y bydd pob un wedi mwynhau’r profiad.

“Yn sicr, fe wnes i fwynhau cyfarfod â’r ymgeiswyr, ac o’m trafodaethau gydag Ifan yn yr hustings, rwy’n siŵr y bydd yn gynrychiolydd cryf ar Ynys Môn.

“Mae’r holl ymgeiswyr yn enillwyr yng ngolwg Ynys Môn gan fod eu huchelgais a’u brwdfrydedd i gynrychioli eu cyd-bobl ifanc yn ganmoladwy a dylid eu cymeradwyo am hynny. Edrychaf ymlaen at weithio gydag Ifan yn y dyfodol a dymunaf yn dda iddo wrth gynrychioli pobl ifanc arbennig yr ynys.”