Rhun yn y ‘Steddfod

Dewch draw i Ynys Môn i’n gweld yn y ‘Steddfod. Mae stondin Plaid Cymru wedi ei leoli ger y pentre bwyd – rhif y stondin yw 319-320 – neu dewch draw i wrando ar Rhun mewn un o’r digwyddiadau isod:

Mercher 9/8/17 4pm
‘Sir Fôn a’r Senedd’ – Rhun ap Iorwerth AC yn sgwrsio gyda’r newyddiadurwr Siôn Jenkins
(Pabell Prifysgol Caerdydd)

Iau 10/8/17 11:30am
Rhun ap Iorwerth yn traddodi Darlith Flynyddol Undeb Cymru a’r Byd
(Pabell y Cymdeithasau 2)

Gwener 11/8/17 10:00am
Trafodaeth ar sut i ymgysylltu gyda’r Diaspora Cymreig
(Stondin Undeb Cymru a’r Byd 501-503)

Gwener 11/8/17 11.30am
Rhun ap Iorwerth yn cadeirio trafodaeth ar y Blynyddoedd Cynnar
(Stondin Achub y Plant 707-708)

Gwener 11/8/17 3.30pm
Rhun ap Iorwerth a Siân Gwenlllian –  Trafodaeth banel ar y testun  Ysgol Feddygol i’r Gogledd
(Pabell y Cymdeithasau)

Neu mae rhestr o ddigwyddiadau Plaid Cymru yn ystod yr wythnos i’w cael ar y wefan: http://www2.plaid.cymru/eisteddfod17