Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Holyhead and Anglesey Mail 03.02.16

Rydw i’n edrych ymlaen at ddiwedd y gaeaf yma. Mae deffro i storm arall bron wedi dod yn arfer. Dros yr wythnos diwethaf, rydw i wedi cynnal cyfarfodydd gyda Dŵr Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn ynglŷn â ‘r hyn y gellid ei wneud i ddelio gydag effeithiau’r tywydd gwael.

Gyda Dŵr Cymru, gallais bwyso am weithredu ar garthffosiaeth a draenio ar hyd yr ynys, o Langoed i Bentre Berw, Dwyran a Niwbwrch. Gobeithio y bydd rhai problemau parhaus sydd yn achosi trallod i nifer, yn cael eu datrys yn fuan.

Roedd y Cyngor wedi bod o dan bwysau anferthol yn nhywydd garw Rhagfyr ac Ionawr, ac wedi gweithio pob awr i frwydro effaith y stormydd. Y frwydr nesaf yw cael cefnogaeth Llywodraeth i ddelio gyda’r difrod ac adeiladu rhagor o hydwythedd. Fe wnaf helpu mewn unrhyw ffordd y gallaf.

Mae stormydd economaidd yn parhau ar draws y DG (ac ymhellach i ffwrdd), ond yn ffodus mae arwyddion da yma yn Ynys Môn. Rydw i’n croesawu’r cyhoeddiad fod gwaith ar fin dechrau ar Barc Eco Orthios yng Nghaergybi. Disgwylir i’r datblygiad greu dros 500 o swyddi parhaol, gyda swyddi eraill yn ystod y cyfnod adeiladu.

Mae hyn yn newyddion da – nid yn unig o safbwynt cyfleoedd gwaith – ar y safle ei hun ac yn y gadwyn gyflenwi – ond hefyd yn nhermau dod a gweithgaredd busnes i safle sydd wedi bod mor bwysig i economi Môn a Chaergybi yn y gorffennol.

Roedd adfywio’r economi hefyd yn bwnc llosg ym Mae Caerdydd yr wythnos diwethaf. Mewn dadl gan Blaid Cymru, gwnes y pwynt pwysig y dylai adfywiad economaidd gwmpasu Cymru gyfan. Un ddeddf bwysig y byddai Plaid Cymru yn ei chyflwyno mewn llywodraeth ydy Deddf adfywiad rhanbarthol. Allwn ni ddim gadael i gyfoeth grynhoi mewn un rhan neu rannau o’r wlad ar draul rhanbarthau eraill. Felly mi fyddem ni’n ei gwneud hi’n ofyniad cyfreithiol i sicrhau bod buddsoddiad yn dod â budd i bob rhan o’r genedl.

Yn y Cynulliad yr wythnos hon, rydwyf yn bwriadu holi Llywodraeth Cymru am y cynllun i adeiladu peilonau newydd ar draws Ynys Môn ac effaith posib hynny ar yr amgylchedd. Mae angen i ni adeiladu achos cryf i’r Grid Cenedlaethol i wneud iddyn nhw sylweddoli pa effaith fyddai’r peilonau yn eu cael ar yr ynys, a phwyso arnynt yr angen i wneud y buddsoddiad angenrheidiol mewn ateb amgen.

Mae dau ymgynghoriad a chyfarfod cyhoeddus brysur yn y Gaerwen cyn y Nadolig eisoes wedi anfon neges glir fod y mwyafrif o bobl Môn yn gwrthwynebu unrhyw ddatblygiad o geblau uwchben. Bydd y cyfarfod gyda’r Grid dydd Gwener yma yn gyfle arall i ailadrodd y neges honno.