Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Holyhead and Anglesey Mail 06.01.16

Mae tymor y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn amser hapus iawn i’r rhan fwyaf, ond mae yn heriol i bobl eraill.

Yr wyf yn ei chael yn anodd i gofio gaeaf arall fel hyn. Ydym, rydym wedi arfer gyda gwynt yng Nghymru ac yn gyfarwydd iawn â glaw. Ond roedd wythnos ar ôl wythnos o gawodydd trwm yn ymddangos yn ddiddiwedd, ac erbyn i Frank daro wythnos diwethaf roeddem eisoes wedi cael ein chwythu gan y gwyntoedd cryfion ers misoedd.

Bûm yn ymweld â Biwmares wrth i weithwyr cynghorau tref a sir a gwirfoddolwyr yn ogystal â chriwiau achub yr Heddlu, Gwasanaeth Tân a thimau brys eraill geisio gael trefn ar ôl dilyw Gŵyl San Steffan. Siaradais â’r rhai oedd wedi gweithredu’n syth i ddechrau ar y glanhau, a rhai o’r rheiny oedd wedi dioddef mwy o lifogydd.

A dyna beth sydd o bryder arbennig yma – mae llifogydd ym Miwmares yn dod yn ddigwyddiad fwyfwy rheolaidd. Dyna pam y byddaf yn aros mewn cysylltiad agos ag asiantaethau amrywiol, ac yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i roi’r amddiffyniad sydd ei angen i’r dref. Ni all hyn barhau.

Rwy’n teimlo hefyd gyda’r busnesau yr effeithir arnynt ac yn gobeithio y byddant yn gallu ail-gydio a’r busnes yn fuan. Yr wyf yn cydymdeimlo’n fawr gyda Anthony Tavernor ar ôl i Erddi Plas Cadnant ym Mhorthaethwy ddioddef niwed sylweddol ar ôl yr holl lafur cariad. Dwi’n gwybod y bydd yn blodeuo eto.

Tarrodd y llifogydd ein system drafnidiaeth, hefyd. Yn Trearddur a Malltraeth, Penmynydd a Biwmares ac mewn mannau eraill, cafodd llawer o ffyrdd eu cau. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i weld pa fesurau ychwanegol y gellid sicrhau mwy o wytnwch yn y stormydd yn y dyfodol.

Ond yr oedd yr hyn a ddigwyddodd ar yr A55 yn anfaddeuol. Mae’n anodd credu fod y brif rwydwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru wedi cael ei gau gan lifogydd, a hynny pan oedd Llywodraeth Cymru eisoes yn gwybod am y problemau posibl ond wedi oedi cyn gweithredu. Nid oes unrhyw esgus dros beidio â gweithredu ymhellach.

Ac felly rydym yn mynd i mewn i flwyddyn newydd. Mae’n gyfnod o obaith … dechreuadau newydd. Wrth ddysgu o wersi’r gorffennol ac adeiladu ar ein cryfderau gallwn osod ein bryd ar ddyfodol mwy disglair.

Mae’n adeg pan rydym yn draddodiadol yn gwneud penderfyniadau, addewidion â’r nod o gyflawni newid cadarnhaol yn ein bywydau. Mae’r heriau o ganlyniad i dywydd y gaeaf wedi dangos y gorau o ysbryd Ynys Môn, gyda chymdogion yn helpu ei gilydd a chymunedau yn dod at ei gilydd i gynorthwyo’r rhai llai ffodus. Felly, gadewch i ni addo i fod hyd yn oed yn gwell cymdogion i’n gilydd yn y flwyddyn newydd.

Gan obeithio y bydd 2016 yn dod â iechyd, hapusrwydd a ffyniant i chi, eich anwyliaid a’ch cymdogion. Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.