Rhun ap Iorwerth yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ar yr weledigaeth o ddarparu caeau 3G ar Ynys Môn.

Gallai Caergybi ac Amlwch elwa o fuddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau chwaraeon drwy weithio mewn parteriaeth yn ôl Rhun ap Iorwerth AC, sydd wedi bod yn gweithio gyda grwpiau cymunedol o’r ddwy ardal i drafod cynlluniau ar gyfer seilwaith hamdden newydd.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn wedi bod yn gweithio gyda grwpiau cymunedol yn Amlwch ers misoedd lawer i gefnogi eu cynlluniau ar gyfer cyfleusterau chwaraeon newydd yn yr ardal, a mae hefyd wedi bod yn gweithio gydag ymgyrchwyr yng Nghaergybi sy’n ceisio darganfod datrysiad i’r cae artiffisial yn Millbank, ar ôl i lifogydd arwain at broblemau sylweddol yno.

Gan ddod â grwpiau o’r ddwy gymuned at ei gilydd ar gyfer trafodaethau yr wythnos diwethaf, dywed Mr ap Iorwerth ei fod yn gobeithio y gall cydweithredu rhwng y ddwy gymuned, yn ogystal â gweithio gyda’r Cyngor Sir, arwain at fuddsoddiad unwaith-mewn-cenhedlaeth mewn seilwaith chwaraeon ar gyfer yr ardal.

Dywedodd AC Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Rwy’n teimlo’n gryf iawn, iawn bod angen i ni fod yn buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer chwaraeon yma ar Ynys Môn. Mae’r cae artiffisial yng Nghaergybi yn wynebu rhai problemau, felly rwy’n credu mai rwan ydi’r amser i weld cae 3G maint llawn yn cael ei ddatblygu yng Nghaergybi, ac rydw i hefyd yn cefnogi cae 3G newydd yn Amlwch hefyd. Mae’r cyfleuster yn Llangefni yn ased gwych, ac mae croeso mawr i fuddsoddi ym Mhorthaethwy hefyd – mae angen cyfleusterau fel hwn ar hyd a lled yr ynys!

“Rwyf wedi bod yn gweithio gyda grwpiau cymunedol yng Nghaergybi ac Amlwch yn cynnig fy nghefnogaeth i geisio gwneud i hyn ddigwydd, a’r wythnos diwethaf cefais gyfarfod cynhyrchiol iawn gyda grwpiau o’r ddwy ardal i weld sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r buddsoddiad trawsnewidiol hwn.

“Fe wnaethon ni drafod sut i weithio gyda’n gilydd i sicrhau buddsoddiad ar gyfer y ddau gae. Ers blynyddoedd mae’r Cyngor yn cael llai a llai o arian, felly ni allwn ofyn iddynt am arian, ond gobeithiaf weithio gyda nhw ar weledigaeth ar gyfer buddsoddiad unwaith-mewn-cenhedlaeth mewn cyfleusterau chwaraeon ar yr ynys.

“Mae’n mynd i gymryd amser, ond mae’n werth gwneud hyn, ac rwy’n credu ei bod hi’n bosibl gweithio gyda’n gilydd rhwng Caergybi ac Amlwch i ddod â’r cyfleusterau i’r ardal ar gyfer ein pobl ifanc ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ni fydd yn hawdd, ond gadewch inni weld beth allwn ei wneud!”