Rhun ap Iorwerth yn galw am chwyldro gwybodaeth yn y GIG

AC Plaid Cymru yn galw am ddata mwy agored gan y GIG

Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth, wedi galw am ddata mwy agored yn y GIG yng Nghymru.

Wrth ysgrifennu yn Click on Wales heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod ansawdd gwael casglu a chyhoeddi data yn broblem enfawr yn y GIG, a lleisiodd bryderon fod y duedd yng Nghymru yn troi oddi wrth gyhoeddi data cymharol.

Mae Rhun ap Iorwerth hefyd yn gwneud cyfres o argymhellion i wneud data yn fwy hygyrch yn y GIG. Dyma hwy:

1. Y dylai pob cwestiwn ysgrifenedig gan Aelodau Cynulliad mewn gwirionedd gael eu trin fel ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth i’r llywodraeth, gyda rheidrwydd cyfreithiol i ateb yn onest ac yn gywir – os nad yw’r wybodaeth ganddynt yn ganolog, yna dylai’r rheidrwydd fod ar y llywodraeth i’w gael oni fyddai cost gwneud hyn yn rhy uchel.

2. Fod angen i’r GIG fuddsoddi yn eu gwasanaethau casglu gwybodaeth fel eu bod o leiaf yn sicrhau bod meysydd pryder a amlygwyd gan bwyllgor y 4ydd Cynulliad yn cael eu trin. Ymhellach, rhaid iddynt gyhoeddi’r data hwn mewn dull agored – gan gynnwys mynediad at setiau data cyflawn fel y gall ystadegwyr annibynnol allu eu harchwilio.

3. Dylai pob llywodraeth ddatganoledig, a gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr, geisio ffyrdd o gydweithredu ar gasglu a chyhoeddi data ar staffio, amseroedd aros, a gwybodaeth ariannol, ond heb fod yn gyfyngedig i hyn.

Dyma ysgrifennodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd Rhun ap Iorwerth:

“Yn y rhan fwyaf o systemau ffederal, y llywodraeth ffederal sy’n gorchymyn pa ddata a gesglir a sut y’i cyhoeddir yn union, fel bod modd adnabod, datgelu a chywiro perfformiad gwael. Mae’n help hefyd annog arloesedd oherwydd pan fo un llywodraeth yn gweithredu polisi llwyddiannus, fod y llwyddiant hwnnw yn cael ei adnabod.

“Er enghraifft, pan gyhoeddwyd y data cychwynnol ar effaith y system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, fe’i dilynwyd yn syth gan alwadau ar i’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon fabwysiadu’r system hon.

“Yn anffodus, bu’r duedd yng Nghymru mewn gwirionedd yn troi ymaith oddi wrth gyhoeddi data cymharol. Er enghraifft, bwriad newidiadau Llywodraeth Cymru i dargedau’r gwasanaeth ambiwlans a chasglu data oedd ei gwneud yn fwy anodd cymharu perfformiad gwael Cymru â chenhedloedd eraill.

“Fel Ysgrifennydd Cabinet cysgodol newydd Plaid Cymru dros Iechyd, rwy’n dweud yn glir nad yw hyn yn ddigon da. Dylai polisïau gael eu datblygu ar sail ffeithiau a thystiolaeth. Mae craffu yn arwain at ddemocratiaeth gref a gwell llywodraethiant, a dylid croesawu hyn. Rwyf eisiau chwyldro gwybodaeth yn y GIG yng Nghymru.”