Rhun ap Iorwerth yn cefnogi Clwb Hwylio Ynys Môn gan obeithio hwylio i ennill y wobr fawr

Mae clwb hwylio o Fôn a enwebwyd am wobr i’r DU cyfan am ei chyflawniad eithriadol, wedi derbyn cefnogaeth Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, a dyma’r unig glwb o Gymry a enwebwyd ar gyfer y wobr fawreddog.

Mae Clwb Hwylio Brenhinol Môn ym Miwmares wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr clwb y flwyddyn, Cymdeithas Hwylio Frenhinol 2020 a dyma’r unig glwb allan o’r 10 i gyrraedd y rownd derfynol, sydd yn dod o Gymru.

Mae gwobr flynyddol Clwb Hwylio’r flwyddyn yr RYA yn cydnabod llwyddiant ysgubol clybiau morio ledled y DU ac yn hyrwyddo’r gwaith caled a’r ymroddiad sy’n mynd i redeg clwb llwyddiannus.

Ar ôl ymweld â’r clwb yn ddiweddar, dywedodd AC Plaid Cymru dros Ynys Môn, Mr ap Iorwerth:

“Mwynheais ymweld â chlwb Hwylio Brenhinol Môn ym Miwmares yn ddiweddar i ddathlu eu henwebiad ar gyfer Clwb y Flwyddyn 2020 i’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol – yr unig glwb yng Nghymru sydd wedi gwneud y rhestr fer, sy’n llwyddiant ysgubol!

“Rwy’n gobeithio bydd Ynys Môn yn cefnogi ac yn pleidleisio dros y clwb hwn i ennill y wobr fawreddog yma. Mae’n glwb sy’n rhoi cymaint i bawb sy’n aelodau, felly gobeithio y gall pawb ddod at ei gilydd a phleidleisio i gefnogi’r clwb yma am y wobr hon, a braf fyddai cael parti i ddathlu’r fuddugoliaeth!

“Rwy’n dymuno’r gorau i Glwb Hwylio Brenhinol Môn ym Miwmares ac yn gobeithio y byddan nhw’n cael llawer o bleidleisiau gan drigolion Ynys Môn cyn y dyddiad cau ar Ionawr 27ain. Edrychaf ymlaen at ymweld â hwy eto yn fuan iawn. ”

Gall pobl bleidleisio dros Glwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn i fod yn glwb RYA y flwyddyn 2020 ar-lein drwy wefan yr RYA – www.rya.org.uk. Mae’r pleidleisio’n cau dydd Llun 27 Ionawr 9am.