Rhun ap Iorwerth yn annog Prif Weinidog Cymru i ymyrryd yng nghynlluniau’r Grid ynglyn a’r peilonau

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones yn un o’i weithredoedd olaf fel prif weinidog, i weithredu a siarad gyda’r Arolygiaeth Gynllunio ac Ofgem i fynnu bod y Grid Cenedlaethol yn ailystyried eu cynlluniau peilonau ar gyfer yr Ynys.

Byddai cynlluniau’r grid yn golygu adeiladu 100 o beilonau newydd ar draws Ynys Môn, yn ogystal â thwnnel i gymryd ceblau trydan o dan afon Menai. Mae Mr ap Iorwerth wedi bod yn ymgyrchydd lleisiol yn erbyn y rhes newydd o beilonau a’r opsiwn twnnel costus.

Mae’n cefnogi opsiwn dan ddaear neu o dan y môr, ac yn dadlau y byddai’n well gwario £200-£300m ar osod ceblau ar groesfan newydd Menai, gan roi cymhorthdal i ddeuoli Pont Britannia, yn hytrach nac ar y twnnel costus.

Yng nghwestiynau’r Prif Weinidog brynhawn Mawrth, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Roedd etholwr o Star, Gaerwen, mewn dagrau ar y ffôn gyda fy swyddfa ddoe, yn ofidus iawn oherwydd cynlluniau’r Grid Cenedlaethol am ail res o beilonau – dyna’r teimlad cyffredin ar Ynys Môn.

“Mae’r grid, wrth gwrs, yn dal i fynd yn groes i ddymuniadau pobl yr Ynys, cynrychiolwyr etholedig yr Ynys a’r Cynulliad Cenedlaethol yma trwy fynnu bwrw ymlaen â datblygu rhes arall o beilonau ar draws Ynys Môn.

“Galwais ar Brif Weinidog Cymru, yn ei ddyddiau olaf yn y swydd, i gysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio a’u hannog i wrthod caniatâd ar gyfer y peilonau yma, ac ysgrifennu at Ofgem hefyd – fel y gwneuthum yn ddiweddar – i fynnu bod y grid yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i osod ceblau ar y bont newydd ar draws y Fenai yn lle gwario £200m ar dwnnel newydd o dan y Fenai.

“Byddai’n arbed arian i Lywodraeth Cymru o ran sicrhau buddsoddiad ar y cyd ar gyfer y bont, ac yn arbed arian i’r grid, a allai wedyn gael ei fuddsoddi mewn tanosod unrhyw gysylltiad newydd ar Ynys Môn.”