Rhun ap Iorwerth i gadeiro cyfarfod Llifogydd Llangefni wythnos yma

Bydd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn cadeirio cyfarfod agored dydd Iau ar gyfer rheiny cafodd ei heffeithio gan y llifogydd yn Llangefni.

Rydym yn annog trigolion a cafodd eu effeithio gan y llifogydd i fanteisio ar y cyfle i ofyn cwestiynnau yn uniongyrchol i’r asiantaethau.

Bydd Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn cadeirio’r sesiwn a fydd yn cael ei fynychu gan uwch swyddogion o Gyngor Sir Ynys Môn, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Dŵr Cymru, yn ogystal a cynghorwyr lleol y dref.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn siambr y Cyngor Sir yn Llangefni, ac yn dechrau am 4yp.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Roedd llifogydd y llynedd yn ergyd fawr i Langefni. Fe gostiodd yn ddrud i fusnesau, a roeddwn i yn union fel trigolion a busnesau’r dref yn eiddgar i weld ymateb buan. Ers hynny, bob tro mae addewid am ‘law trwm, mae’n creu anuddugrwydd ymysg pobl y dref, a mae pawb yn dymuno cael atebion ynglŷn â beth ddigwyddodd, a pha welliannau sydd wedi ei gwneud er mwyn rhwystro llifogydd yn y dyfodol.

“Bydd y cyfarfod cyhoeddus yr wyf yn ei gadeirio yr wythnos yma yn gyfle i bobl gael diweddariad am y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud neu sydd ar droed gan y Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dwr Cymru, ac i ofyn cwestiynnau yn uniongyrchol i’r asiantaethau sydd wedi dod ynghyd er mwyn helpu’r dref. Rwy’n gobeithio y bydd cymaint a phosibl o bobl yn manteisio ar y cyfle I fynychu’r cyfarfod.”