Rhun ap Iorwerth AS yn galw am eglurder ynghylch llawdriniaethau dewisiol.

Mae Rhun ap Iorwerth, AS dros Ynys Môn, wedi galw ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i fanylu ar ba gamau y byddant yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhestrau aros helaeth wrth symud ymlaen yn dilyn cyhoeddiad gan y Bwrdd Iechyd y byddant yn ailddechrau llawdriniaethau dewisiol.
Mewn llythyr at y Prif Weithredwr, dywedodd llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod – “llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, gyda phryderon eu bod wedi cael eu gadael heb math o wybodaeth ynghylch eu llawdriniaethau a oedd fod i gymryd lle dros y flwyddyn ddiwethaf. Er eu bod yn llwyr werthfawrogi bod y llawdriniaethau hyn wedi’u gohirio oherwydd y cyfyngiadau dros y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i’r pandemig, mae cleifion yn dweud wrthyf pa mor bryderus ydyn nhw, a faint mae’r boen y maent yn ei brofi bob dydd yn effeithio ar eu bywydau – gan gynnwys eu hiechyd meddwl, a’u bod nhw’n teimlo nad oes unrhyw oleuni ar y gorwel.”
Pwysleisiodd – “ni allwn anwybyddu’r ffaith bod amseroedd aros eisoes yn rhy uchel cyn y pandemig, a byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech egluro beth yw cynlluniau BIPBC i sicrhau na fyddwn yn dychwelyd i sut yr oedd pethau cyn cyfnod y pandemig.”
Yn ddiweddar, galwodd Rhun ap Iorwerth ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun adfer cadarn, uchelgeisiol, sy’n rhoi GIG Cymru mewn gwell sefyllfa nag yr oedd ar ddechrau’r pandemig, ac fe bwysleisiodd yn y llythyr i’r Bwrdd Iechyd y byddai’n croesawu eu barn hwythau ar sut y gellir cyflawni hyn.