RHOI STOP I’R WAL DÂL “ANORCHFYGOL”

Dywed Rhun ap Iorwerth AS na ddylai cefnogwyr rygbi Cymru gael eu prisio allan o wylio’r gêm pan fydd y Chwe Gwlad yn cychwyn ym mis Chwefror.

Dywedir bod cytundeb rhwng partneriaid y Chwe Gwlad a phartneriaid CVC Capital, a chredir y gallai mwyafrif y gemau symud y tu ôl i wal dâl. Nid yw’n glir eto a fydd S4C yn gallu parhau i ddangos unrhyw un o’r gemau.

Dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae yna lawer yng Nghymru nad oes ganddyn nhw’r modd o allu fforddio talu i wylio chwaraeon ar y teledu. Gyda’r rheoliadau coronafeirws cyfredol, nid mater o wylio’r gêm yn y dafarn yn unig mohono, neu bicio i dŷ ffrind i weld gyda’ch gilydd – os na allwch fforddio talu i weld, ni fyddwch yn ei weld.

“Mae rygbi yn rhan mor bwysig o ddiwylliant Cymru, ac mae adnewyddu chwarae yn ystod y pandemig wedi bod yn ddihangfa i lawer. Bydd gosod wal dâl rhwng y cyhoedd yng Nghymru a’u rygbi yn ergyd greulon ar yr hyn sydd eisoes yn gyfnod anodd. Heb unrhyw gymysgu dan do rhwng cartrefi, tafarndai’n parhau ar gau, a chefnogwyr wedi’u gwahardd rhag gemau byw, bydd y wal dâl hon yn rhwystr anorchfygol i lawer. ”