RHAID YMATEB I BROBLEMAU DWYS GOFAL SYLFAENOL CAERGYBI!” – GALW ETO AR Y BWRDD IECHYD I WEITHREDU

Mae Rhun ap Iorwerth AS yn galw ar y Bwrdd Iechyd i ymateb i’r problemau dwys sy’n dal i fodoli yn y ddarpariaeth gofal sylfaenol yng Nghaergybi yn ôl etholwyr.

Yn Hydref 2019, cynhaliodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, gyfarfod cyhoeddus yng Nghaergybi i drafod sefyllfa gofal cynradd, wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gymryd rheolaeth o feddygfeydd Cambria a Longford yn dilyn ymddeoliad ac ymadawiad sawl un o’r meddygon teulu. Bu’n gyfle i drigolion yr ardal ddod ynghyd i rannu eu pryderon, ac i alw ar y Bwrdd Iechyd i ymateb i’r pryderon hynny ar fyrder.

Mae’r AS wedi aros mewn cyswllt cyson â’r Bwrdd Iechyd ar y mater, yn galw arnyn nhw i weithredu’n gyflym ar ddatrysiadau ar gyfer y tymor byr, ond i rannu eu gweledigaeth ar gyfer darpariaeth wydn, well yn yr hir dymor hefyd. Er hyn, a byth ers hynny mae’r pryderon yn parhau i lifo mewn, ac mae etholwyr yn wirioneddol bryderus am effaith ychwanegol y pandemig ar y gwasanaethau sy’n barod o dan bwysau sylweddol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Gwn fod pob meddygfa’n wynebu heriau Covid ar hyn o bryd, ond i mi, mae Caergybi dan anfantais o’r cychwyn gan fod problemau eisoes mor ddwfn yn y gwasanaeth gofal sylfaenol, cyn i’r pandemig daro.”

“Does gen i ddim ond diolch o waelod calon i’r staff sydd yn gweithio’n ddiflino er mwyn ceisio gwasanaethu ym meddygfeydd y dref, a hynny mewn cyfnod sydd mor heriol. Ond maen nhw angen help. Gwn fod staff sydd yn Longford Road a Cambria yn ymroddedig iawn, ac yn gwneud eu gorau, a gwn hefyd bod meddygfa arall y dref, meddygfa Victoria yn dal i wneud gwaith rhagorol hefyd.”

“Rydym angen diweddariad brys gan y Bwrdd Iechyd ar sut maent yn bwriadu mynd i’r afael â’r mater. Ar yr un pryd, mae angen diweddariad ar y potensial o ddatblygu canolfan iechyd sylfaenol newydd i’r dref, gyda’r posibilrwydd o gynnig un safle i’r holl feddygfeydd gyd-weithio ynddo.”

Mae’r Aelod o’r Senedd wedi galw ar y Bwrdd Iechyd i ystyried creu datblygiad yng nghanol y dref, gan glymu’r iechyd a’r cymdeithasol, y gwasanaeth cyhoeddus a’r hwb economaidd drwy gynhyrchu ‘footfall’ i fusnesau lleol. Mae wedi cynnig hen safle Woolworths fel un opsiwn i’w ystyried.

Ategodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae hen adeilad Woolworths yn adeilad hygyrch ar droed o’r stryd, i ambiwlansys, ac i geir o’r llefydd parcio digonol yn y cefn. Mae’n ofod o faint sylweddol iawn, ac mae’n syniad sy’n dal i ddenu cefnogaeth gref gan etholwyr. Mae angen arloesi ar gyfer Caergybi a’r fro – a gellid, o fod yng nghalon y dref, greu bwrlwm cymunedol o gwmpas canolfan iechyd amlddisgyblaethol modern.”