RHAID AMAU’R PENDERFYNIAD I DYNNU BETSI ALLAN O FESURAU ARBENNIG

“Llywodraeth Cymru sydd dal yn gyfrifol” medd Rhun ap Iorwerth

Wrth ymateb i’r newyddion y bydd Betsi Cadwaladr yn cael ei dynnu allan o fesurau arbennig ar unwaith, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Mon a Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd,

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn syndod o gofio mai dim ond ychydig wythnosau’n ôl y dywedodd y Gweinidog Iechyd nad oedd digon o gynnydd wedi’i wneud er mwyn dod allan o fesurau arbennig. Dywedodd wrthym fod heriau mawr i’w goresgyn o hyd, yn enwedig ym maes iechyd meddwl.

“Drwy ymyrraeth barhaus wedi ei dargedu, mae Gweinidogion Llafur yn parhau i fod yn gyfrifol am yr hyn sy’n digwydd o ran cyfeiriad strategol a darparu gwasanaethau yn y gogledd, ac ar ôl 5 mlynedd a hanner o fesurau arbennig, gellir maddau i gleifion am fod yn amheus ynghylch yr hyn y bydd y cyhoeddiad heddiw’n ei olygu mewn gwirionedd o ran gwelliannau i wasanaethau.

“Mae Plaid Cymru yn credu bod problemau’r Bwrdd yn gronig ac yn strwythurol, a bod angen newidiadau mawr o hyd. Dyna pam yr ydym yn dweud ei bod yn bryd i ddechrau o’r newydd, gyda strwythurau iechyd a gofal newydd yn gwasanaethu’r gogledd yn hytrach na’r Bwrdd presennol, sy’n rhy fawr ac anghysbell o’r cymunedau mae’n ei wasanaethu. Mae cleifion a staff yn haeddu gwell, ac rwy’n diolch i’r staff rheng flaen sy’n gweithio’n galed am eu gwaith a’u hymrwymiad yn ystod blwyddyn mor anodd.”

DIWEDD.