Fy ymateb i Ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol ar beilonau

Annwyl Syr / Madam,
 
Ysgrifennaf i ymateb i ymgynghoriad Grid Cenedlaethol ar Gysylltiad gogledd Cymru, ac i ail-fynegi fy ngwrthwynebiad i’r cynllun arfaethedig i adeiladu rhês o beilonau newydd ar draws Ynys Môn.
 
Fe wyddoch eisoes o fy ymatebion i ymgynghoriadau blaenorol, a sawl sgwrs a gohebiaeth gyda’r Grid, fod gen i ffafriaeth gref tuag at ddod o hyd i ateb arall a fy mod yn cefnogi gosod ceblau o dan y ddaear yn hytrach nac uwchben.  O fod wedi siarad gyda nifer fawr o drigolion a mudiadau lleol yn Ynys Môn, a mynychu sawl cyfarfod cyhoeddus lleol ar y pwnc, gwn mai dyma yw barn y mwyafrif ar yr ynys, ac mae aelodau etholedig ar bob lefel hefyd – fy hun fel Aelod Cynulliad, yr Aelod Seneddol lleol, Aelod Seneddol Ewropeaidd a Chynghorwyr Môn – i gyd wedi siarad yn unfrydol yn erbyn peilonau.
 
Er gwaethaf y gwrthwynebiad cryf yn lleol a’r ffaith fod ymgynghoriadau blaenorol y Grid wedi dangos yn glir fod y mwyafrif llethol o bobl ddim yn ffafrio peilonau, mae’n hynod siomedig fod y Grid yn dal i ganolbwyntio ar yr opsiwn yma.  Nid oes dim cyfaddawd wedi bod, ac nid oes digon o dystiolaeth bod opsiynau eraill wedi cael eu hystyried o ddifrif.
 
Mae’n ymddangos mai’r gost yw’r ffactor allweddol i’r Grid yn hytrach na ffactorau technegol rhoi ceblau o dan y ddaear. Fodd bynnag, credaf y byddai’r gost i bobl Môn o gael rhês newydd o beilonau yn drwm ac yn anheg.  Mae’r Grid i’w weld yn gofyn i bobl Môn dalu er mwyn darparu gweddill y DU gyda’r opsiwn rhataf i drosglwyddo trydan.  Byddai pobl Môn yn talu trwy ostyngiad yng ngwerth eu tai a byddai’r diwydiant twristiaeth – sydd yn werth tua £250m i’r ynys bob blwyddyn – o dan fygythiad.  Annogaf chi’n gryf felly i wneud asesiad cost manwl cyn dod i benderfyniad, a gresynaf yn fawr nad ydy hyn eisoes wedi cael ei wneud, o ystyried yr effaith ar bobl ac economi Môn. Cytunodd Ofgem yn ddiweddar i fy nhgais i ofyn i Grid gynnal y fath asesiad, ac rwyf yn edrych ymlaen i weld y canlyniadau.
 
Yn ogystal ag effaith economaidd, credaf y dylai’r Grid roi mwy o ystyriaeth i effaith amgylcheddol peilonau newydd. Fe gyhoeddodd y Grid yn ddiweddar eu bod am wario canoedd o filiynau o bunoedd ar osod gwifrau dan ddaear yn Ardal y Llynoedd er mwyn lleihau’r effaith amgylchedddol. Nid yw Ynys Môn yn haeddu dim llai.  Efallai nad ydy Môn yn Barc Cenedlaethol, ond mae’n Geoparc UNESCO a ganddi sawl Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae ein harddwch naturiol yn ased mor bwysig i Ynys Môn ag i unrhyw Barc Cenedlaethol.
 
Nodaf bod y Grid wedi penderfynu peidio rhoi ceblau uwchben y Fenai. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw nad oedd unrhyw fwriad ganddynt i osod gwifrau uwch y Fenai o’r cychwyn gan y gwyddent na chaent ganiatad i wneud hynny. Nid ydwyf yn cytuno mai adeiladu twnel i geblau fyddai’r opsiwn gorau.  Byddai llai o effaith amgylcheddol drwy i’r Grid gyfrannu tuag at gost pont newydd, i ddeuoli llwybr y Bont Britannia bresennol, gan roi gwifrau ar y bont newydd honno. Byddai gwario efallai £150m ar dwnel yn awr, a £150m arall ar bont yn y blynyddoedd i ddod yn wastraff  gwarthus o arian cyhoeddus pan ellid lladd dau dderyn ar yr un pryd. 

Hefyd, os yw’r Grid yn dewis peidio rhoi ceblau ar draws y Fenai rhag niweidio amgylchedd naturiol gweledol ardal y Fenai, onid ydy’r un peth yn wir am yr angen i warchod amgylchedd naturiol gweledol Ynys Môn drwy danddaearu ar draws yr holl ynys?
 
Dadl arall yw gwydnwch, neu resilience. Credaf bod y bwriad i osod dwy rês o beilonau gyfochrog a’u gilydd yn codi cwestiwn o wydnwch o ran cysylltiad i bwerdy Wylfa Newydd. Gallai nifer o ffactorau posibl, gan gynnwys tywydd gwael neu ddamwain, arwain at golli’r cysylltiad. Buasai claddu gwifrau dan ddaear yn atal hynny.
 
Gofynnaf i chi unwaith eto i ystyried pryderon pobl leol ac i wneud y buddsoddiad angenrheidiol mewn ateb amgen na fyddai’n cael cymaint o effaith negyddol ar amgylchedd, golygfeydd, twristiaeth ac economi yr ynys. Yn ôl Grid, £400m fyddai’r gost ychwanegol – swm bychan iawn yng nghyd-destun buddsoddiadau isadeiledd trydan o’r math hwn.
 
Yn gywir,
 
RHUN AP IORWERTH
Aelod Cynulliad Ynys Môn