AC Plaid Cymru yn nodi Diwrnod Amser i Siarad gyda galwad am well gofal iechyd meddwl i staff y GIG

Mae Ysgrifennydd Iechyd Cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi galw am weithredu i wella cefnogaeth iechyd meddwl sydd ar gael i weithwyr iechyd Cymru.

Mae ffigyrau diweddar yn awgrymu bod staff y gwasanaeth iechyd yn dioddef effeithiau i’w hiechyd yn sgil pwysau gwaith.

Yn siarad ar Ddiwrnod Amser i Siarad 2018, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Nod Diwrnod Amser i Siarad ydi cael pobl i siarad, gwrando a newid bywydau mewn perthynas â materion iechyd meddwl.

“Dylai pawb deimlo’n gyfforddus i edrych am gefnogaeth maent eu hangen heb orfod ofni stigma, a dyna pam rwy’n falch iawn o roi fy nghefnogaeth lawn i’r ymgyrch.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae ein gwasanaeth iechyd wedi ei selio ar roi gofal am ddim i bobl ar y pwynt pan maent ei angen. Er mwyn gwneud hyn yn iawn mae’n anghenraid gallu adnabod y pwynt pan mae hynny’n digwydd.

“Mae ffigyrau diweddar gafodd eu cyhoeddi yn Lloegr yn dangos fod 90,000 staff GIG wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith o ganlyniad i straen hirdymor dros y tair blynedd ddiwethaf.

“Awgrymai yr Arolwg Staff GIG Cymru 2016 bod rhwng chwarter a thraean o staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi dioddef anaf neu salwch o ganlyniad i straen wedi ei achosi gan waith.

“Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad i gyffredinolrwydd materion iechyd meddwl a’r gefnogaeth sydd ar gael ac edrych ar be ellir ei wneud er mwyn lleddfu’r anawsterau mae staff yn ei wynebu ar y cyfle cyntaf posib.

“Mae’n amser i siarad – ond mae hefyd yn amser i weithredu.”